Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Datblygu Lleol

Published: 12/08/2020

 

Mae’r Cyngor wedi gwneud yr holl sylwadau ar ei Gynllun Datblygu Lleol drafft yn gyhoeddus yn ddiweddar ac ar gael ar ei wefan, fel y gofynnir gan Lywodraeth Cymru a’r rheoliadau Cynllun Datblygu Lleol. Darparwyd crynodeb o bob sylwad, ynghyd â dolen i’r sylwadau gwreiddiol, ond mae manylion personol wedi cael eu cuddio rhag y cyhoedd - drwy 'olygiad'. Byddai’n ymddangos bod ymdrech ofalus wedi ei wneud ar nifer fechan iawn o gofnodion ar ran penodol o’r cynllun i dynnu’r diogelwch hwnnw gan rhywun â mynediad i'n gwefan.

 

Dyweddodd Gareth Owens, Prif Swyddog Llywodraethu;

 

"Unwaith daeth y risg yn hysbys, tynnwyd y dogfennau o'r wefan yn syth. Gwnaed hyn mewn llai na thair awr, o bryd y'u gwnaed yn gyhoeddus. Yn ystod yr amser cyfyngedig hwnnw, derbyniodd y rhan fwyaf o sylwadau unigol ar y wefan ddim neu nifer fach iawn o ‘gliciau’.

 

"Ar ôl gwirio ein cofnodion o ymwelwyr i’r wefan, gallwn weld mai nifer fach iawn cafodd fynediad i’r ddogfen mewn cyfnod byr iawn. Unwaith roeddem yn ymwybodol o’r broblem, fe weithion ni’n gyflym iawn i gywiro’r ddogfen ac atal mynediad pellach i ddata personol.

 

"Fel corff cyhoeddus cyfrifol, rydym yn cymryd materion ar ddiogelwch gwybodaeth bersonol yn ddifrifol iawn, ac rydym wedi hysbysu’r unigolion y roedd eu manylion wedi eu cynnwys yn y ddogfen. Rydym wedi hysbysu’r Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth hefyd, yr ydym wedi cynnal perthynas gwaith cadarnhaol a ffyddiog gyda hwy, a byddwn yn cydweithio'n llawn os oes angen cynnal ymchwiliad.

 

"Mae’r Cyngor yn ymwybodol hefyd bod manylion personol nifer o unigolion wedi cael eu cyhoeddi ar-lein gan y sawl a gyrchodd y wybodaeth, neu eraill. Mae’r bobl hynny wedi cael eu targedu ac mae'r Cyngor eisoes wedi cysylltu â hwy. Rydym yn credu bod ail-gyhoeddi’r deunydd hwn yn anghyfreithlon ac rydym wedi darparu tystiolaeth o’r drosedd honedig i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

 

"Rydym yn ymddiheuro i bawb a effeithiwyd gan y digwyddiad hwn. Nid oedd y meddalwedd a ddefnyddiwyd i ddiogelu’r manylion hyn yn ddigonol, ac mae meddalwedd llawer mwy cadarn wedi cael ei ganfod i sicrhau bod y wybodaeth olygedig yn cael ei diogelu pan fo’r dogfennau’n cael eu cyhoeddi eto yn y man. Bydd unrhyw ddogfennau olygedig newydd yn cael eu cyhoeddi dan y mesurau diogelu newydd sydd ar waith hefyd."