Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ailethol Arweinydd a Dirprwy Arweinydd

Published: 12/05/2015

Cafodd y Cynghorydd Aaron Shotton ei ailethol yn Arweinydd Cyngor Sir y Fflint yn y Cyfarfod Blynyddol heddiw (dydd Mawrth 12 Mai). Yn aelod o Gyngor Sir y Fflint ers 1999, cafodd y Cynghorydd Shotton ei ethol yn Arweinydd ym mis Mai 2012 yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol. Mae’r Cyng. Shotton hefyd yn gyfrifol am Gyllid yn y Cabinet ers mis Mai 2012. Mae’n cynrychioli Ward Canol Cei Connah. Mae’n aelod o Gyngor Tref Cei Connah ers 1996 a bryd hynny ef oedd y cynghorydd Llafur ifancaf yn y Deyrnas Unedig. Roedd hefyd yn gwasanaethu Cei Connah fel Cadeirydd Cyngor y Dref yn 2003. Mae’r Cynghorydd Shotton hefyd yn Ddirprwy Arweinydd ac yn Llefarydd dros Gyllid ac Adnoddau ar Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac mae’n aelod o Gyngor Partneriaeth Cymru a Bwrdd Adnoddau Cymdeithas Llywodraeth Leol . Mae’r Cynghorydd Bernie Attridge wedi ei ailethol yn Ddirprwy Arweinydd. Yn aelod o’r Cyngor Sir ers 2004, cafodd y Cynghorydd Attridge ei ethol yn Ddirprwy Arweinydd ym mis Mai 2012 yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol. Mae’r Cynghorydd Attridge yn gyfrifol am yr Amgylchedd yn y Cabinet ers mis Mai 2012. Mae’n cynrychioli Ward Canol Cei Connah ac yn aelod o Gyngor Tref Cei Connah ers 16 o flynyddoedd ac yn gyn-gadeirydd. Ef hefyd yw Cyfarwyddwr NEW Homes, cwmni tai Cyngor Sir y Fflint sy’n gosod ac yn rheoli tai fforddiadwy.