Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diweddariad Prydau Ysgol Am Ddim Mis Medi 2020

Published: 14/08/2020

Gan na fydd pob grwp blwyddyn yn dychwelyd i’r ysgol yn llawn amser yn ystod pythefnos cyntaf tymor yr hydref, bydd rhieni plant sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim yn parhau i dderbyn taliad uniongyrchol diogel ar gyfer y cyfnod o 1 Medi tan 11 Medi 2020.

Yn ystod y bythefnos hon, oherwydd y bydd rhieni/gofalwyr yn derbyn taliad uniongyrchol (fel sydd wedi bod yn digwydd ers mis Mai), ni fydd y plant yn derbyn prydau ysgol am ddim ar y diwrnodau y byddan nhw yn yr ysgol.   

Yn hytrach, bydd yn rhaid i rieni/gofalwyr ddarparu pecyn cinio neu roi arian i’r plant brynu pryd ysgol drwy ddull talu dewisol yr ysgol.  

O ddydd Llun 14 Medi bydd plant yn dechrau derbyn prydau ysgol am ddim yn ôl yr hen drefn, a bydd y taliadau uniongyrchol yn dod i ben.

Disgyblion Blwyddyn 12 

Os yw plentyn sy'n dychwelyd i flwyddyn 12 yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, bydd yn rhaid i’r rhiant/gofalwr ailymgeisio ar-lein drwy wefan Cyngor Sir y Fflint.