Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor yn lansio ei feicro-ofalwyr cyntaf

Published: 25/08/2020

Mewn ymateb i brinder cenedlaethol o ofalwyr ac i fodloni’r galw cynyddol am ofal mae Cyngor Sir y Fflint, gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru a Chadwyn Clwyd, wedi cyflwyno dull newydd arloesol o gynyddu nifer y gofalwyr sy’n gallu darparu gofal i’w preswylwyr. Enw’r dull newydd hwn yw Meicro-Ofal.

Mae Meicro-Ofal yn disgrifio busnesau bach iawn sy’n amrywio o unig fasnachwyr i fusnesau sy’n cyflogi pump o bobl, sy’n cynnig gwasanaethau gofal, cefnogi neu les hyblyg wedi’u personoli (fel siopa, glanhau neu gwmnïaeth) i bobl ddiamddiffyn, wedi’u teilwra i anghenion yr unigolyn. Gall y meicro-ofalwyr hyn roi cefnogaeth neu ofal i rywun sydd wedi cael asesiad ffurfiol o fod angen gofal gan yr awdurdod lleol a gallant hefyd gynnig amrediad o ddatrysiadau gwasanaeth i bobl sydd eisiau prynu gwasanaethau gofal neu les yn breifat. 

Er gwaethaf yr heriau a grëwyd gan Covid-19, rydym wedi llwyddo i sefydlu nifer o ddarparwyr meicro-ofal newydd a hoffem gyflwyno sawl un ohonynt i chi:

Christine oedd ein meicro-ofalwr cyntaf i gael ei sefydlu. Mae ei busnes, o'r enw Gofal Cartrefle, yn cynnig gofal a chefnogaeth bersonol ac ar hyn o bryd mae'n cefnogi dau gwsmer yn ardal y Fflint.

Mae Scott yn rhedeg Myther Me, ac yn cynnig gwasanaethau gofal a chefnogi personol, ynghyd â gofalu am anifeiliaid anwes a darparu llety cwn pan fydd pobl yn gorfod mynd i’r ysbyty a’u bod angen rhywun i ofalu am eu hanifail anwes. Mae wedi’i leoli yn ardaloedd Licswm a Threffynnon

Sefydlodd Katherine Katherine’s Home Care and Support, yn cynnig gwasanaethau gofal a chefnogi yn y pentrefi sy’n agos i ffin Sir Ddinbych. 

Y meicro-ofalwr diweddaraf i ddod drwy ein rhaglen ansawdd yw Ema.  Sefydlodd Gofal Opal ac mae wedi’i lleoli yn ardal Bwcle.

Mae’n falch gennym ddweud hefyd ein bod â sawl darparwr posibl arall yn mynd drwy’r rhaglen ar hyn o bryd, gyda’r gobaith y byddant yn gallu darparu gofal a chefnogaeth yn ein cymunedau lleol yn fuan. 

Dywedodd y Cyng. Christine Jones, yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Yn ystod yr amser anodd hwn, rydym ni, fel llawer o bobl eraill, wedi gorfod addasu ein harferion a’n prosesau gweithio i ddarparu gwasanaethau hanfodol i’n cymunedau.

“Mae Meicro-Ofal yn cynnig ymagwedd wahanol at ddarparu amrediad o wasanaethau personol sydd wir eu hangen ar bobl ddiamddiffyn. Rwy’n siwr y bydd Meicro-Ofal yn llwyddiannus a bydd yn dod yn rhan bwysig o sut rydym yn darparu gofal yn ein cymunedau lleol.”

Am fwy o wybodaeth am ein meicro-ddarparwyr, cysylltwch â Marianne Lewis neu Rob Loudon ar 01352 702126 neu 01352 702461 am sgwrs, neu e-bostiwch nhw ar micro-care@flintshire.gov.uk. Rydym hefyd yn awyddus i recriwtio mwy o feicro-ofalwyr ar draws y Sir, felly os ydych yn meddwl y gallech helpu i gefnogi pobl yn eich cymuned leol, neu’n adnabod rhywun a all fod â diddordeb mewn dod yn Meicro-Ofalwr, yna cysylltwch â ni.