Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diweddariad Prydau Ysgol am Ddim – Rhieni sydd â phlant yn y derbyn

Published: 07/09/2020

Os yw eich plentyn (neu blant) bellach wedi dechrau yn y dosbarth derbyn ac rydych wedi ymgeisio am brydau ysgol am ddim, mae Cyngor Sir y Fflint angen eich manylion cyfrif banc er mwyn gallu gwneud taliad uniongyrchol diogel o £19.50 fesul plentyn ar gyfer y cyfnod o bythefnos o ddychwelyd i’r ysgol yn raddol, 1 Medi hyd 11 Medi 2020. 

Bydd angen i chi roi cinio i’ch plentyn neu dalu am bryd gan ddefnyddio dull o dalu sydd fwyaf addas i’r ysgol ar y diwrnodau mae eich plentyn yn mynychu’r ysgol yn ystod y cyfnod hwn. Bydd eich plentyn yn cael cinio ysgol am ddim o 14 Medi 2020.

Nodwch eich manylion gan ddilyn y ddolen ddiogel isod:

digital.flintshire.gov.uk/EFTEST/EForm/Create?service=FSM+Payments&lang=C

Rydym angen y wybodaeth hon erbyn dydd Gwener 11 Medi 2020.