Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Tai Teg: cyfleoedd i gael tai fforddiadwy

Published: 09/09/2020

Gan weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai ledled Gogledd Cymru mae Tai Teg yn siop un alwad sefydledig ar gyfer tai fforddiadwy i’w rhentu neu eu prynu. 

Mae gan bobl sydd wedi cofrestru gyda Tai Teg gyfle i ddefnyddio un o sawl dewis i gael cartref sy’n rhatach na'r rhai sydd ar y farchnad agored. 

Mae Rhent Canolradd yn cynnig ffordd fwy fforddiadwy o rentu cartref. Mae'r rhent fel arfer tua 20% yn rhatach sy’n rhoi cyfle i bobl gynilo ar gyfer blaendal i helpu i brynu cartref yn y dyfodol. Mae angen i ymgeiswyr fod mewn cyflogaeth neu beidio â bod yn llwyr ddibynnol ar fudd-daliadau.

Mae Rhentu i’w Brynu yn helpu pobl i brynu'r cartref maent yn ei rentu. Mae cyfran o’r rhent a delir yn cael ei gadw ac mae'r ffigwr a gronnwyd yn gweithredu fel cyfandaliad i gyfrannu at flaendal morgais i brynu’r cartref. Mae angen i ymgeiswyr fod mewn cyflogaeth ac yn gallu cael morgais. 

Mae Rhan Ecwiti yn darparu cyfle i bobl brynu cartref am bris mwy fforddiadwy. Mae prynwr yn prynu cyfran o’r cartref (70% fel arfer) trwy forgais neu gynilion. Mae’r cyngor neu’r gymdeithas tai yn berchen ar y gyfran o 30% sy’n weddill. Nid oes unrhyw rent i’w dalu ar y gyfran nad ydych yn ei berchen.

Yn Sir y Fflint, mae dros 20 o gynlluniau tai fforddiadwy ledled y sir yn cael eu hysbysebu ar wefan Tai Teg. I gofrestru gyda Tai Teg (yn amodol ar y meini prawf cymhwyso) neu i ddarganfod mwy am y cartrefi sydd ar gael yn Sir y Fflint ewch i:  https://taiteg.org.uk/cy/

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai, y Cynghorydd Dave Hughes;

“Mae Tai Teg yn darparu cyngor arbenigol, deallus ochr yn ochr â dewisiadau ymarferol a fforddiadwy i rentu neu brynu cartrefi o safon. Hoffwn annog unrhyw un sy’n edrych am gartref newydd yn Sir y Fflint i ddarganfod mwy am Tai Teg a beth allai gynnig iddynt.”