Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun arian cyfatebol mannau chwarae i barhau yn 2015/16

Published: 13/05/2015

Ddydd Mawrth (19 Mai) bydd Cabinet y Cyngor yn cael gwybod y bydd rhaglen arian cyfatebol Cyngor Sir y Fflint i uwchraddio mannau chwarae plant yn parhau am flwyddyn arall. Ers 2010, maer awdurdod lleol wedi gweithio mewn partneriaeth â chynghorau tref a chymuned i ddarparu rhaglen arian cyfatebol lwyddiannus sydd wedi arwain at fuddsoddiad o dros £1 miliwn mewn gwelliannau i gyfleusterau chwarae yn y sir. Nod y dull hwn yw gwella’r safleoedd hynny sydd fwyaf mewn angen, gan ystyried y boblogaeth plant lleol a chyflwr y man chwarae. Yn 2015/16, bydd cyfanswm o £105,000 ar gael ar yr un sail â’r blynyddoedd blaenorol, gyda phob cyngor tref a chymuned yn derbyn gwahoddiad i fynegi diddordeb mewn cymryd rhan yn y cynllun, ac arian y Cyngor Sir yn cael ei gyfeirio at ardaloedd mewn angen. Mae uchafswm o £10,000 ar gael i bob cynllun. Bydd gofyn i’r Cabinet hefyd gymeradwyo Grant Cymunedol Mannau Chwarae ar gyfer 2016/17 ymlaen. Bydd y cynllun grant yn disodlir cynllun arian cyfatebol presennol ac yn canolbwyntio’n bennaf ar gefnogi mannau chwarae sydd wedi eu trosglwyddo i gymunedau. Yna, bydd unrhyw arian heb ei ddyrannu gan y cynllun grant ar gael fel arian cyfatebol, gydar arian cyfatebol ar gael i gynghorau tref a chymuned neu grwpiau cymunedol lle maer cyfleuster chwarae sefydlog wedi ei drosglwyddo iddyn nhw o’r awdurdod lleol; neu i wella mannau chwarae a gedwir cadw gan y Cyngor ac sydd wedi eu nodi fel blaenoriaeth ar gyfer eu cadw. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Strategaeth Gwastraff, Gwarchod y Cyhoedd a Hamdden: “Rydw i’n falch ein bod ni’n gallu parhau âr rhaglen arian cyfatebol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Maer Cyngor wedi ymrwymo i weithio gyda chynghorau tref a chymuned i gynnal ein gwasanaethau a chyfleusterau lleol, gan gynnwys mannau chwarae lleol, ac mae’r ymateb rydym ni eisoes wedi ei dderbyn am ein cynllun Trosglwyddo Asedau Cymuned yn galonogol iawn.”