Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynlluniau canol tref Bwcle

Published: 16/09/2020

Mewn partneriaeth, mae cynrychiolwyr o Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref Bwcle ynghyd â masnachwyr lleol wedi ffurfio gweithgor i archwilio gwelliannau priffordd a theithio llesol yng nghanol ac o amgylch tref Bwcle, tra hefyd yn gwella bywiogrwydd ac amgylchedd Bwcle.  

Cafodd y grwp ei sefydlu i ystyried dewisiadau ar gyfer dad-greu parth cerddwyr posibl ar y Stryd Fawr a datblygu strategaeth trafnidiaeth integredig tymor hir i’r dref.  

Mae ymgynghoriad ar gyfer agor y Stryd Fawr i draffig wedi’i ohirio oherwydd COVID-19, fodd bynnag, fel rhan o’r prosiect hwn, mae cais am arian grant wedi’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru i wneud gwelliannau yn yr ardal gyfagos.  

Mae cam cyntaf y strategaeth hon yn cynnwys cysylltu Ysgol Gynradd Mountain Lane, Ysgol Uwchradd Elfed, Ysgol Gynradd Southdown ac Ysgol Gynradd Westwood â chanol y dref drwy isadeiledd teithio llesol. Mae hyn yn cynnwys arwyddion traffig ar gyffordd Mill Lane/Ffordd Hawkesbury a lledu Mill Lane i hwyluso llwybr a rennir a chaniatáu i draffig lifo’n rhwydd.  

Mae’r grwp yn gobeithio y bydd y cais hwn yn llwyddiannus a byddant yn parhau â’r gwaith i ddatblygu strategaethau er budd y dref.