Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Uned Gaffael Corfforaethol
  		Published: 09/05/2014
Gallai uno unedau caffael corfforaethol dau gyngor fod ar fin cael ei wireddu 
os bydd yr achos dros uno yn cael ei gymeradwyo yng nghyfarfod Cabinet Sir y 
Fflint ddydd Mawrth (13 Mai) ac yng nghyfarfod Cyngor Sir Ddinbych yn 
ddiweddarach y mis yma.
Byddai’r Uned Gaffael Corfforaethol ar y Cyd yn cyfuno cryfder prynur ddau 
gyngor, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Sir Ddinbych, yn arwain at arbedion ac yn 
cynyddur gallu i drafod contractau a phrisiau.
Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf bu’r sefydliadau’n arbrofi ar gydweithio a 
rheoli ar y cyd.  Bydd y cynlluniau hyn yn ymestyn y trefniadau hynny ac yn 
uno’r timoedd caffael yn llawn, gyda Sir Ddinbych fel yr awdurdod gwestia. Bydd 
bwrdd rheoli ar y cyd gyda chynrychiolaeth cyfartal o’r ddau gyngor.  Bydd y 
model busnes newydd yn anelu at gael arbedion o £2 miliwn i Sir y Fflint.
Bydd uned caffael gref yn gallu talu sylw i nifer o faterion – arbed arian trwy 
ddefnyddio contractau mwy, cefnogi’r economi leol trwy ddefnyddio contractau 
llai a chynyddu rheolaeth leol er budd cymunedau wrth ddefnyddio cymalau budd 
cymdeithasol.
Rhyngddyn nhw, mae’r ddau gyngor yn gwario £220 miliwn y flwyddyn a bydd creu 
tîm sengl yn lleihau dyblygu ac a bydd yn fwy cynhyrchiol.
Meddai’r Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reoli Corfforaethol: 
“Mae’n rhaid gwella gwasanaeth caffael Cyngor Sir y Fflint ac mae’r achos 
busnes yma’n anelu at weithio’n well tran gwneud yr arbedion angenrheidiol. 
Mae’r holl awdurdodau’n wynebu’r un heriau a, thrwy weithio mewn partneriaeth 
gyda Sir Ddinbych, gallwn gynnig gwasanaethau cydlynedig a fydd o fudd i’r ddau 
gyngor.”