Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Prydau Ysgol Am Ddim – Disgyblion sydd wedi cael cyfarwyddyd i hunan-ynysu

Published: 21/09/2020

Os yw eich plentyn/plant wedi cael cyfarwyddyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru neu Brofi, Olrhain a Diogelu i hunan-ynysu am 14 diwrnod, byddwch yn cael un taliad uniongyrchol diogel i’ch cyfrif banc o £39.00 fesul plentyn (£19.50 fesul plentyn fesul wythnos), i’ch galluogi i brynu bwyd yn ystod y cyfnod ynysu o 14 diwrnod.  

Sylwch – Os mai un o’ch plant yn unig sydd wedi gorfod hunan-ynysu, bydd pob plentyn arall yn yr aelwyd o oedran ysgol yn cael pryd ysgol am ddim yn yr ysgol fel yr arfer.