Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Haf llawn hwyl – ond gyda gwahaniaeth

Published: 29/09/2020

AdobeStock_children runningsmall.jpgMae cynlluniau chwarae’r haf Sir y Fflint wedi bod yn llwyddiant ysgubol unwaith eto, er gwaethaf gorfod gwneud pethau ychydig yn wahanol eleni. 

Mae’r cynlluniau, sydd wedi bodoli ers 1996 yn cael eu darparu gan Dîm Datblygu Chwarae’r Cyngor mewn partneriaeth â 28 o gynghorau tref a chymuned leol a Llywodraeth Cymru. 

Yn gyffredinol, yr haf hwn, mae yna 55 o leoliadau safle, un ai yn y boreau neu’r prynhawniau, ar draws y Sir am bythefnos o’r gwyliau haf. 

Mae’r sesiynau ar gyfer plant thwng 5 a 12 oed ac i fyny at 15 oed i blant ag anableddau. 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:

“Yn Sir y Fflint rydym yn falch iawn o’n cynlluniau chwarae dros yr haf sydd yn rhoi’r cyfle i blant gael amser, rhyddid a’r gallu i chwarae allan yn lleol, cwrdd â hen ffrindiau a gwneud rhai newydd. 

“Eleni, er gwaetha’r heriau anferthol, roedd yna dal 1,865 o blant wedi mynychu’r cynlluniau chwarae a gynhaliwyd eto ar hyd a lled y Sir a oedd yn brawf o lwyddiant anferthol y cynllun unwaith eto.”

Eleni fe gafodd 30 o blant gydag anableddau eu cefnogi trwy ein Cynllun Cyfeillio. 

Ategodd y Cynghorydd Roberts:

“Roedd dau gynllun chwarae Cymraeg yn Ysgol Gwynedd ac Ysgol Maes Garmon.   Dyma ran pwysig o’n Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg bod plant yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn cynllun chwarae trwy gyfrwng y Gymraeg.” 

Eleni roedd yna broses cofrestru ar-lein i gadw copïau papur o ffurflenni cofrestru i leiafswm. Fodd bynnag roedd angen copïau caled mewn rhai ardaloedd lle nad oedd gan rieni neu ofalwyr fynediad i’r rhyngrwyd.  Mae Penaethiaid wedi cynnig yn barod i roi mynediad ar-lein i rieni a gofalwyr i gofrestru ar gyfer 2021. 

Meddai Swyddog Datblygu Chwarae Sir y Fflint, Janet Roberts: 

“I ddechrau roeddem yn meddwl y byddai’n rhaid i ni ganslo pob un o’n cynlluniau chwarae ar gyfer eleni, ond diolch i waith caled ac ymrwymiad llawer o’n swyddogion Cyngor ymrwymedig a phartneriaid o sefydliadau eraill roedden ni’n gallu cyflawni rhaglen lwyddiannus a diogel, er fymryn yn llai, ar gyfer 2020.  Mae’n rhaid i mi gyfeirio’n arbennig at yr holl gynghorau tref a chymuned – heb eu cefnogaeth nhw ni fyddai’r cynlluniau chwarae wedi digwydd yr haf hwn. 

“Mae gallu cynnig y cynlluniau chwarae hyn, heb amheuaeth, wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i’r holl gymunedau ynghlwm, fel y gwelwyd yn yr e-byst a dderbyniwyd gan y rhieni a’r gofalwyr, ac wrth gwrs, y plant.”