Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Amddiffyn ein preswylwyr mwyaf diamddiffyn 

Published: 02/10/2020

Front Door Delivery.jpgNid yw "cyfyngiadau" lleol yn hawdd i unrhyw un, ond maent yn arbennig o anodd i rai o’n preswylwyr mwyaf diamddiffyn a phobl sy’n byw ar ben eu hunain. 

Rydym am gymryd y cyfle hwn i’ch atgoffa sut gallwn ich helpu yn ystod y sefyllfa frys hon ac i sicrhau eich bod yn cadw’n ddiogel ac yn derbyn y cymorth a’r gefnogaeth sydd ei angen arnoch. Mae’n amser heriol i bawb. Os oes angen help arnoch, cysylltwch â ni rhwng 8.30 a.m. a 5.00 p.m. Dydd Llun - dydd Gwener ar 01352 752121.

Bydd ein tîm cyfeillgar yn gallu siarad â chi am yr help y gallwn ei ddarparu. Gallwn drefnu danfon bwyd a meddyginiaeth i’ch cartref, a sicrhau eich bod yn cadw mewn cysylltiad â phobl. Rydym eisoes wedi helpu rhai aelodau o’n cymuned ac mae hyn wedi bod o help garw iddynt gadw’n ddiogel a dilyn y cyngor a roddwyd gan Lywodraeth Cymru. Cadwch yn ddiogel a pharhewch i ddilyn y cyngor a roddwyd i chi.

Er mwyn lliniaru’r effaith y mae hyn yn ei gael ar oedolion sy’n byw ar ben eu hunain, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn llacio’r cyfyngiad er mwyn i unigolion sy’n byw ar eu pen eu hunain allu ffurfio swigen gydag un aelwyd arall y tu mewn i’r sir honno. 

Manylion cyswllt defnyddiol

  • Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion - Un Pwynt Mynediad 03000 858858 neu spoa@flintshire.gov.uk
  • Canolfan Gyswllt Cyngor Sir y Fflint - 01352 752121
  • Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint - 01352 744000
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd Sir y Fflint: E-Bost: (ar gyfer ymholiadau am y Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd yn unig) fisf@flintshire.gov.uk
  • Gwefannau: www.dewis.cymru neu www.ggd.cymru

Mae help wrth law

  • Ydych chi’n poeni am eich iechyd a’ch lles meddyliol?
  • Ydych chi angen cefnogaeth i’ch helpu chi drwy’r cyfnod yma straen?
  • Mae gan wefan Dewis fanylion am wahanol wasanaethau cymorth iechyd a lles meddyliol.