Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwisgo gorchudd wyneb yn orfodol ar gludiant ysgol yn Sir y Fflint

Published: 08/10/2020

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cyhoeddi y bydd pob disgybl uwchradd sy’n teithio ar gludiant ysgol yn gorfod gwisgo gorchudd wyneb o ddydd Llun, 12 Hydref ymlaen. Mae’r penderfyniad hwn wedi’i wneud er mwyn diogelu teithwyr ac i atal lledaeniad Covid-19. Mae Sir y Fflint mewn parth gwarchod iechyd gyda chyfyngiadau llymach i ddiogelu'r cyhoedd ac felly mae'r penderfyniad hwn yn cyd-fynd â hynny.

O ystyried y cynnydd mewn trosglwyddiadau, mae’n bwysig gosod cymaint o reolyddion diogelu iechyd â phosibl a bydd hyn yn dod â Sir y Fflint yn unol â siroedd eraill sydd mewn sefyllfa debyg.

Gyda lledaeniad y coronafeirws yn cynyddu yn Sir y Fflint a siroedd cyfagos, mae gofyn rwan i blant a phobl ifanc 11 oed a hyn wisgo gorchudd wyneb mewn cerbydau penodedig sy'n darparu cludiant i'r ysgol (yn union fel y mae’n rhaid gwneud ar gludiant cyhoeddus. 

Mae rhai plant a phobl ifanc wedi’u heithrio rhag gwisgo gorchudd wyneb, ac mae’r eithriadau hyn hefyd yn berthnasol i gludiant ysgol. 

Does dim rhaid i blant dan 11 oed wisgo gorchudd wyneb ond mae rhwydd hynt iddyn nhw wneud hynny os ydyn nhw’n gallu gwisgo un yn unol â'r cyfarwyddiadau.  

Meddai Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint, Claire Homard:

“Mae diogelu plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn flaenoriaeth. Mae arnom ni eisiau cadw’r plant mewn addysg ac mae cyflwyno’r rheol hon ar bob cerbyd cludiant i’r ysgol yn mynd i’n helpu ni wneud hynny.

“Rydym ni’n teimlo bod gwneud y penderfyniad hwn rwan yn fesur ychwanegol pwysig i helpu i ddiogelu plant a phawb sy’n dod i gysylltiad â nhw rhag Covid-19. Gofynnwn i rieni a gofalwyr egluro pwysigrwydd hyn i’r plant a sicrhau bod ganddyn nhw fasgiau efo nhw pan fyddan nhw'n teithio ac yn mynd i'r ysgol.    

“Rydym ni’n sylweddoli bod hwn yn gyfnod anodd iawn i bawb, ac rydym ni’n gwerthfawrogi’ch cydweithrediad yn fawr iawn - diolch!”