Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Parc Gwepra a Dyffryn Maes Glas yn cael eu henwi fel mannau gwyrdd gorau’r wlad

Published: 14/10/2020

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi datgelu enillwyr Gwobr y Faner Werdd eleni – marc rhyngwladol o barc neu fan gwyrdd o ansawdd.  

Bydd y baneri’n chwifio yn Nyffryn Maes Glas a Pharc Gwepra i gydnabod eu cyfleusterau gwych i ymwelwyr, safonau amgylcheddol uchel ac ymrwymiad i ddarparu mannau gwyrdd o ansawdd uchel.

Mae Dyffryn Maes Glas a Pharc Gwepra yn llawn hanes a bywyd gwyllt. Maent wedi dod yn ganolfannau hamdden ar gyfer pobl leol, gan gefnogi lles yn ystod y cyfnod heriol hwn. Maen nhw’n leoedd gwerthfawr iawn yn ein cymuned leol ac mae’n fraint derbyn y Wobr hon ar gyfer 2020/21. 

Waterfall Wepre.jpgMae Parc Gwepra yn fan gwyrdd 160 erw, sy’n cuddio yng nghalon Cei Connah. Mae’n safle unigryw gyda chynefinoedd a daeareg amrywiol. Mae nodweddion y parc yn cynnwys: Gerddi’r Hen Neuadd, pwll pysgota, ffrwd a rhaeadr a Chastell Ewlo. 

large cloudy pool 2.jpgLleolir Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas yn Nhreffynnon, ac mae’n cynnwys 70 erw o hanes diwydiannol. Yn hanesyddol, roedd Dyffryn Maes Glas yn cyflogi cannoedd o bobl yn ei ffatrïoedd copr a’i felinau cotwm, sydd erbyn hyn yn fannau gwyrdd agored, gwych. Mae’r Dyffryn yn gartref i nifer o henebion rhestredig ac yn le delfrydol i fywyd gwyllt. 

Meddai Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: 

"Mae’n anrhydedd i ni ennill gwobr y Faner Werdd ar gyfer Dyffryn Maes Glas a Pharc Gwepra. Mae mannau naturiol Sir y Fflint wedi disgleirio yn ystod y flwyddyn anodd hon fel adnoddau gwerthfawr o ansawdd uchel ar gyfer pobl leol. Hoffwn ddiolch i’r holl wirfoddolwyr a staff sy’n gweithio’n galed i gynnal y safonau uchel hyn a chaniatáu i ni chwifio’r ‘Faner Werdd’. Mae amrywiaeth o fywyd gwyllt a nodweddion hanesyddol y parciau hyn o ddiddordeb mawr i breswylwyr ac maen nhw’n glod i Sir y Fflint. Rydym eisiau i drigolion lleol barhau i fwynhau’r mannau gwyrdd lleol sy’n werth eu gweld wrth i’r tymhorau newydd ac i ddarganfod mwy am ein treftadaeth lleol yn ddiogel. Unwaith i’r sefyllfa bresennol wella, edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl." 

Dywedodd Gwladys Harrison, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas: 

"Mae staff, gwirfoddolwyr a’r Bwrdd Ymddiriedolwyr yn ymfalchïo yn Nyffryn Maes Glas. Dyma yw trysor Sir y Fflint ac rydym yn falch o gyflawni’r wobr hon sy’n adlewyrchu ar safon y man naturiol hwn. Hoffwn annog holl drigolion lleol i fynd allan a mwynhau ein mannau naturiol lleol yn ddiogel."

Mae 224 o barciau a mannau gwyrdd ar draws y wlad wedi cael Gwobr flaenllaw y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd – o barciau gwledig i erddi ffurfiol, i randiroedd, coetir a mynwentydd.

Cyflwynir rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru. Gwirfoddolodd arbenigwyr mannau gwyrdd annibynnol eu hamser ar ddechrau’r hydref i feirniadu safleoedd ymgeiswyr yn erbyn wyth o feini prawf llym, yn cynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol, a chyfranogiad cymunedol.

Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru’n Daclus:

"Mae’r pandemig wedi dangos pa mor bwysig yw parciau a mannau gwyrdd o ansawdd uchel i’n cymunedau. I lawer ohonom, maent wedi bod yn hafan ar stepen y drws ac o fudd i’n iechyd a’n lles.

"Mae’r 224 o faneri sydd yn hedfan eleni yn dystiolaeth o waith caled staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cynnal safonau rhagorol o dan amgylchiadau heriol iawn. Hoffwn eu llongyfarch a diolch iddynt i gyd am eu hymrwymiad eithriadol."

Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr ar gael ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru