Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Strategaeth Adferiad

Published: 14/10/2020

Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint i nodi adroddiad ar strategaeth adfer y Cyngor yn eu cyfarfod ar ddydd Mawrth, 20 Hydref. 

Ar 17 Mawrth 2020 fe gyflwynodd Cyngor Sir y Fflint ei ddatganiad cyhoeddus cyntaf i’w ymateb i’r pandemig coronafeirws byd-eang COVID-19 a’r datblygiad mewn cynlluniau wrth gefn gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. 

Dyma ddechrau cyfnod ymateb i argyfwng gan y Cyngor.  I arwain, cefnogi ac amddiffyn ei bobl.  Dyma hynny’n parhau tan ddiwedd Gorffennaf 2020.

Yn dilyn sefyllfa o argyfwng mae cyfnod pontio i adferiad, i gefnogi a helpu cymunedau, busnesau ac unigolion sy’n cynllunio dychwelyd i normalrwydd.  

Mae strwythur Strategaeth Adfer COVID-19 y Cyngor wedi’i nodi isod:

  • Llinell amser o’r ymateb i’r argyfwng hyd at yr adferiad. 
  • Y trefniadau trosglwyddo o ymateb i adferiad. 
  • Adferiad y Cyngor fel sefydliad. 
  • Adferiad y cymunedau a wasanaethwn. 
  • Blaenoriaethau a pherfformiad strategol y Cyngor ar gyfer gweddill 2020/21.
  • Swyddogaeth y Cyngor i adfer yn rhanbarthol. 
  • Adferiad llywodraethu democrataidd y Cyngor. 

Bydd yna dudalen llawn manylder ar wefan y Cyngor sydd yn nodi ein hymateb i COVID-19 a sut yr ydym yn cynllunio i symud i adferiad cynaliadwy.  Bydd yn fyw ar ôl y cyfarfod ar 20 Hydref.  Bydd dolen i’r dudalen yn cael ei ddosbarthu bryd hynny.

Meddai Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett:

“Rydym yn byw mewn amgylchedd sy’n symud yn gyflym. Dros y misoedd nesaf, nes bod amser lle bydd y feirws o dan well rheolaeth, mae’n anochel y byddwn yn symud i mewn ac allan o sefyllfa o argyfwng.  Trwy reoli’r sefyllfa o argyfwng yn dda gallwn barhau i osod y sylfeini ar gyfer adferiad yn y dyfodol. 

“Mae cyfrifoldeb personol gan bawb yn y sefyllfa hon ac unwaith eto rydym yn apelio ar gydweithrediad pawb i ddilyn cyfyngiadau cadw pellter, cymdeithasol ac eraill sydd yn eu lle. 

“Mae holl wasanaethau’r Cyngor yn parhau i gael eu gweithredu, rhai gyda chyfyngiadau, er mwyn sicrhau fod pawb yn gallu byw eu bywydau o ddydd i ddydd.”