Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgynghoriad ar Ganolfan Ddydd Melrose yn Shotton

Published: 13/05/2015

Bydd canlyniadau ymgynghoriad am ddyfodol gwasanaethau yng Nghanolfan Ddydd Melrose, Shotton yn cael ei drafod gan gynghorwyr yr wythnos hon. Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir y Fflint yn darparu gwasanaethau dydd i bobl hyn bum niwrnod yr wythnos mewn pedair prif ganolfan - Melrose, Marleyfield House, Croes Atti ar Hen Fragdy. Maer gwasanaeth yn darparu gofal dementia a gofal dydd cyffredinol ar draws yr holl ganolfannau. Mae gwasanaethau dydd yn helpu i gadw pobl yn eu cartrefi am gyhyd ag y bo modd ac yn cwrdd ag anghenion gofal seibiant, er mwyn cefnogi gofalwyr yn ogystal â’r rhai sy’n derbyn gofal. Oedran cyfartalog y bobl syn mynychu gwasanaethau dydd yw 85 mlwydd oed. Maer Melrose yn darparu gofal dydd cyffredinol yn bennaf a, dros y flwyddyn ddiwethaf, mae nifer y bobl syn defnyddior gwasanaeth gofal dydd cyffredinol wedi gostwng. Maer adeilad hefyd angen cyllid cyfalaf. Darparodd yr ymgynghoriad gyfle i weithio gyda’r holl ddefnyddwyr gwasanaeth au teuluoedd, i wrando ar eu barn am ddyfodol y Ganolfan, er mwyn asesu anghenion y rhai syn defnyddior cyfleuster, a gweld a ellid darparu cymorth amgen, os yn briodol. Cymerodd dros 75% o bobl syn defnyddior Melrose, au teuluoedd, ran yn yr ymgynghoriad, a oedd yn cynnwys pedwar opsiwn, sydd wedi eu rhestru’n llawn yn adroddiad y pwyllgor. Er bod cefnogaeth glir ar gyfer opsiwn un, gan gefnogi’r status quo, derbyniwyd bod teilyngdod i’r ail opsiwn hefyd - i drosglwyddor gwasanaethau dydd i sefydliad newydd - ar yr amod bod hwn yn lletya’r holl ddefnyddwyr gwasanaeth o fewn yr adeilad newydd. Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei drafod yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd y dydd Iau yma (14 Mai) lle gofynnir ir Aelodau ystyried canlyniad yr ymgynghoriad. Bydd y penderfyniad terfynol ynglyn â darparu gofal dydd yn y dyfodol yn cael ei wneud gan y Cabinet. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol: Maer Cyngor yn cydnabod ac yn deall y rôl hanfodol y mae gofal dydd yn chwarae wrth gefnogi gofalwyr a phobl ddiamddiffyn, ac rydym yn awyddus i’r gefnogaeth honno barhau. Rydym wedi gwrando ar ein defnyddwyr gwasanaeth au teuluoedd ac rydym yn parhaun ymrwymedig i sicrhau bod amgylchiadau unigol pob person yn cael eu hystyried. Fodd bynnag, o ganlyniad ir pwysau ariannol syn ein hwynebu nas gwelwyd or blaen, mae pob gwasanaeth yn cael ei graffu’n ofalus i bennu sut y gallwn gynllunio ein gwasanaethau i gwrdd ag anghenion ein cymunedau lleol am gost y gallwn ei fforddio yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni.