Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mwynhewch yr awyr agored – yn eich ardal leol!

Published: 22/10/2020

Yn fwy nag erioed, mae busnesau lleol Sir y Fflint angen ein cefnogaeth ac wedi gwneud newidiadau sylweddol er mwyn cydymffurfio â rheoliadau sydd wedi cael eu rhoi ar waith i’n cadw ni oll yn ddiogel.  Bydd siopa’n lleol am eitemau hanfodol yn ystod y Cyfnod Atal Byr yn helpu ac yn cefnogi ein siopau lleol i darparu cyflenwadau hanfodol yn ystod y cyfnod atal byr. 

Gyda’r nosweithiau’n dechrau mynd yn hwy a’r tywydd yn oerach ac yn wlypach, mae’n demtasiwn i aros gartref ac ymgilio rhag y tywydd.  Hefyd, mae cyfyngiadau’r cyfnod atal byr yn golygu y bydd yn rhaid i nifer ohonom aros gartref am dros bythefnos.  

O ystyried hyn, nid yw’r buddion o dreulio amser yn yr awyr agored, gwneud ymarfer corff a chael ychydig o awyr iach erioed wedi bod mor berthnasol.  Os ydym yn dechrau teimlo ein bod wedi cael llond bol, dan straen oherwydd ein gwaith, neu wedi laru ar syllu ar yr un pedair wal bob dydd, gallai treulio ychydig o amser yn yr awyr agored wneud byd o les i ni a rhoi hwb i’r ysbryd.   

Mae cerdded, er enghraifft, yn fuddiol iawn i’n hiechyd corfforol, mae’n ein helpu i golli pwysau, rhoi hwb i’n system imiwnedd, rhoi mwy o egni i ni a gwella ansawdd ein cwsg. Yn ogystal â hynny, mae’n helpu i leihau straen, rhoi hwb i greadigrwydd, gwella ein hwyliau ac yn hyrwyddo ein lles emosiynol a meddyliol. 

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd ymarfer corff i’n hiechyd meddwl a chorfforol. Bydd y cyfnod atal byr hwn yn caniatáu i ni gael cyfle i ymarfer y corff yn rheolaidd, cyn belled ein bod yn gwneud hyn yn ein hardal leol naill ai ar ein pennau ein hunain neu gydag aelodau o’n haelwyd.    Yn ogystal â hynny, ystyrir bod cyfuno ymarfer corff gyda mynd â’r ci am dro neu alw heibio yn y siop leol i brynu eitemau hanfodol yn rhesymol. 

Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd;

“Caniateir i siopau sy’n gwerthu eitemau hanfodol aros ar agor yn ystod y cyfnod atal byr, er mwyn gwasanaethu a chefnogi eu cymunedau yn yr un modd ag y maent wedi bod yn ei wneud drwy gydol y pandemig.  

 “Bydd nifer o’n busnesau lleol hefyd yn darparu gwasanaethau cyflenwi a siopa ar-lein er mwyn sicrhau fod trigolion Sir y Fflint yn derbyn eu nwyddau hanfodol yn ystod y cyfnod hwn.”