Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Newidiadau i’r fenter nofio

Published: 13/05/2015

Mae’n rhaid i Gyngor Sir y Fflint wneud newidiadau iw darpariaeth nofio am ddim o ganlyniad i leihad mewn cyllid. Dyraniad cyllid y Cyngor ar gyfer Menter Nofio am Ddim Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015/2016 yw £121,500, syn ostyngiad o dros £43,000 mewn cyllid yn y tair blynedd ariannol diwethaf. Maer fformiwla ar gyfer buddsoddi bellach yn seiliedig ar amddifadedd yn hytrach na phoblogaeth. Maer MNADd yn darparu cyfleoedd nofio am ddim i blant dan 16 oed ac i bobl dros 60 oed, ac yn gosod meini prawf sylfaenol ar gyfer yr hyn syn rhaid i bob Cyngor ei ddarparu. I blant dan 16 oed, maer rhain yn cynnwys 14 awr o nofio am ddim yr wythnos fesul Cyngor yn ystod y gwyliau ysgol; a nofio am ddim i oedolion dros 60 oed yn ystod yr holl sesiynau nofio cyhoeddus y tu allan i wyliaur ysgol. Oherwydd y gostyngiad yn ei grant, maer Cyngor yn gorfod gwneud rhai newidiadau ir ffordd y maen darparur rhaglen Nofio am Ddim yn y Sir. Bydd Sir y Fflint yn defnyddio elfen dan 16 or grant drwy ddarparu gwersi nofio strwythuredig i blant, yn unol âr flaenoriaeth genedlaethol Mae Pob Plentyn yn Nofiwr. Bydd y Cyngor hefyd yn disodli sesiynau sblash gwyliau ysgol am ddim gyda sesiynau sblash a delir, a bydd sesiynau nofio am ddim ir teulu ar y penwythnos yn cael eu disodli gyda sesiynau nofio am ddim i blant, a fydd yn y ddau bwll nofio sydd â’r galw mwyaf yn Sir y Fflint, sef Pafiliwn Jade Jones a Chanolfan Hamdden yr Wyddgrug. Bydd y newidiadau yn dod i rym o ddydd Llun 1 Mehefin, 2015. Disgwylir y bydd sesiynau nofio strwythuredig am ddim y Cyngor, a sesiynau nofio am ddim i bobl dros 60 oed, yn yn parhau ar yr un sail âr flwyddyn flaenorol.