Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymunwch âr Her Cyw Iâr a gadewch i ni haneru nifer yr achosion o wenwyn bwyd oherwydd campylobacter

Published: 18/05/2015

Beth am glywed mwy am y cyw iâr? Rydym ni wrth ein bodd efo fo. Maen iach ac yn flasus ac yn dod â ni at ein gilydd o gwmpas y bwrdd bwyd i gael cinio dydd Sul neu i fwynhau barbeciw ar brynhawn braf. Rydym ni’n gymdeithas o bobl sy’n hoffi bwyta cyw iâr. Yn ôl arolwg barn diweddar yr Asiantaeth Safonau Bwyd mae bron i dri chwarter (73%) ohonom ni’n bwyta cyw iâr pob wythnos yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. A, chytunodd bron i dri chwarter (72%) o bobl ifanc 16-24 oed a 52% o bobl dros 25 oed mai cyw iâr yw eu hoff gig. Ond mae yna un peth nad ydym ni’n ei hoffi am y cig yma. Mae cyw Iâr yn gallu achosi gwenwyn bwyd. Maer Asiantaeth Safonau Bwyd yn amcangyfrif bod modd olrhain 280,000 o achosion o wenwyn bwyd pob blwyddyn i gampylobacter - germ a geir yn bennaf ar gyw iâr amrwd. Fedrwch chi ddim ei weld, ei arogli na hyd yn oed ei flasu, ond os bydd yn effeithio arnoch chi, ni fyddwch yn ei anghofio. Ar ei waethaf, gall campylobacter achosi marwolaeth neu barlys. Mae gwenwyn bwyd yn sgil campylobacter fel arfer yn datblygu ychydig ddyddiau ar ôl bwyta bwyd wedi’i halogi ac mae’n arwain at symptomau syn cynnwys poen yn yr abdomen, dolur rhydd difrifol a thaflu i fyny. Weithiau fe all arwain at effeithiau parhaol, fel syndrom coluddyn llidus, arthritis adweithiol ac, mewn achosion prin, Syndrom Guillain-Barré - cyflwr difrifol ar y system nerfol. Mae ar yr Asiantaeth Safonau Bwyd eisiau haneru nifer yr achosion o wenwyn bwyd yn sgil campylobacter erbyn diwedd 2015. Fe all hynny olygu dros fil o bobl yn llai yn dioddef o’r gwenwyn bwyd y flwyddyn nesaf. Os yw pawb yn gwneud eu rhan, gan gynnwys y diwydiant a’r defnyddwyr, fe allwn ni gyrraedd y targed hwn. Bydd ymgymryd â’r Her Cyw Iâr a gwneud o leiaf un peth i helpu i gadw ein boliau yn ddiogel ac yn iach yn gwneud gwahaniaeth enfawr o ran helpu i gyrraedd y nod hwn. Maer Asiantaeth Safonau Bwyd yn gofyn i chi addo: • Bagio a chadw cyw iâr amrwd ar wahân i fwydydd eraill, a’i orchuddio ai oeri ar silff waelod yr oergell • Peidio â golchi cyw iâr amrwd gan ei fod yn tasgu germau • Golchi popeth syn cyffwrdd â chyw iâr amrwd efo sebon a dwr poeth - eich dwylo ac offer • Gwirio fod y cyw iâr wedi’i goginion iawn – h.y. ei fod yn chwilboeth a bod yr hylif yn glir ac nad oes cig pinc I ymgymryd â’r her ac i fod â chyfle i ennill gwobrau anhygoel ewch i: www.food.gov.uk/chickenchallenge Maen amlwg ein bod ni i gyd yn hoffi cyw iâr, ond maen rhaid i ni gymryd yr amser a sicrhau ein bod ni’n gwneud y pethau bach yn y gegin i gadw ein hanwyliaid yn ddiogel. Os oes arnoch chi eisiau i bobl gofio eich prydau cyw iâr am y rhesymau cywir, dilynwch gyngor yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar yr arferion diogel a argymhellir wrth baratoi, coginio a chadw cyw iâr. Meddai Nina Purcell Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Strategaeth Wastraff, Gwarchod y Cyhoedd a Hamdden: “Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o fod yn rhan o’r ymgyrch genedlaethol hon, syn lledaenur neges ac nid y germau. Maen bwysig bod pawb yn gwybod sut i drin a choginio bwyd yn ddiogel er eu lles eu hunain ac er lles eu teuluoedd.” DIWEDD NODIADAU I OLYGYDDION: Beth yw campylobacter? Campylobacter ywr enw generig ar gyfer nifer o rywogaethau o facteria syn gallu achosi gwenwyn bwyd mewn pobl. Maent yn achosi mwy o achosion o wenwyn bwyd yn y DU na salmonela, E. coli a listeria cyfunol. Mae bacteria campylobacter iw cael yn gyffredin ar gig dofednod. Mae modd olrhain rhwng 50% ac 80% o achosion o wenwyn bwyd yn sgil campylobacter yn y Deyrnas Unedig a gwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd yn ôl i ddofednod, cig dofednod amrwd yn bennaf. Scientific Opinion on Quantification of the risk posed by broiler meat to human campylobacteriosis in the EU (mabwysiadwyd 9 Rhagfyr 2009) http://www.efsa.europa.eu/en/scdocs/scdoc/1437.htm I gael rhagor o wybodaeth ac i ymgymryd â’r her: www.food.gov.uk/chickenchallenge I gael cyngor ar drin dofednod yn ddiogel, ewch i www.food.gov.uk/chicken Pam bod hyn yn bwysig? Gall gwenwyn campylobacter arwain at salwch, gan gynnwys poen yn yr abdomen, dolur rhydd, anabledd a hyd yn oed yn waeth. Y rhai syn wynebur risg fwyaf yw plant a phobl hyn. Dewch i wybod mwy am Her Cyw Iâr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn www.food.gov.uk/chickenchallenge.