Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cyngor yn derbyn y lefel uchaf o werthusiad mewn Adolygiad o Gartrefi Gofal

Published: 18/05/2015

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi derbyn y lefel uchaf o werthusiad yn Adolygiad Cartrefi Gofal diweddaraf Comisiynydd Pobl Hyn Cymru. Mae Comisiynydd Pobl Hyn Cymru, Sarah Rochira, wedi cyhoeddi adroddiad yn ddiweddar “Lle i’w Alw’n Gartref?’, yn dilyn ei hadolygiad o ansawdd bywyd a gofal i bobl hyn syn byw mewn cartrefi gofal ledled Cymru. Dyma’r adolygiad mwyaf oi fath iw gynnal erioed yng Nghymru, ac maer adroddiad yn nodi gofynion ar gyfer gweithredu er mwyn sicrhau bod ansawdd bywyd yn ganolog i ddarparu gofal preswyl a nyrsio. Yn yr adroddiad, gwelir fod pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi’u dyrannu â saith gofyniad penodol i’w gweithredu, syn cynnwys sicrhau bod gan bobl hyn lais ac ansawdd bywyd yn eu cartrefi gofal, gan gynnwys cyfleoedd i gadw cyfeillgarwch syn bodoli eisoes; bod mynediad i wasanaethau arbenigol os oes angen, a bod staff yn cael hyfforddiant dementia fel rhan o’r datblygiad parhaus o’r gweithlu cartrefi gofal hanfodol dan sylw. Ym mhob un or saith argymhelliad, derbyniodd ymateb Cyngor Sir y Fflint y lefel uchaf gan y Comisiynydd - yr unig awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru i wneud hynny. Mae graddau’r categori yn amrywio or uchaf (derbyniol), i rhannol ac annerbyniol. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol: “Dyma gadarnhad rhagorol gan Gomisiynydd Pobl Hyn Cymru. Mae Cyngor Sir y Fflint yn gwerthfawrogi ei berthynas â chartrefi gofal lleol o fewn y Sir, ac rydym wedi buddsoddi llawer o amser i weithio gydan gilydd i ofalu am ein pobl hyn. Maer Cyngor yn ymroddedig i’n partneriaeth syn gweithio gyda chartrefi gofal a chyda rheolwyr cartrefi gofal yn benodol, ac rwy’n falch bod yr ymrwymiad hynny wedi’i gydnabod. Mae manylion llawn am yr adroddiad i’w gael yn http://www.olderpeoplewales.com/en/Reviews/Residential_Care_Review.aspx