Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Lliw yn y Llyfrgell Llyfrgell yr Wyddgrug; Arddangosfa Wydr Sylvia Davies

Published: 21/05/2015

Mae’r artist gwydr medrus o Sir y Fflint, Sylvia Davies, ar hyn o bryd yn arddangos ei darnau gwydr trawiadol yn Llyfrgell yr Wyddgrug. Dyma ran o gyfres o arddangosfeydd Lliw yn y Llyfrgell sydd âr nod o gefnogi artistiaid a chrefftwyr lleol, rhai ohonynt erioed wedi arddangos eu gwaith or blaen, trwy roi llwyfan iddynt arddangos eu gwaith ir cyhoedd. Trwy gydol y flwyddyn, bydd y rhaglen arddangosfeydd yn Llyfrgelloedd Sir y Fflint yn cynnwys paentiadau gan Angie Hoopert, Emma-Jayne Holmes a Clayton Langford, lluniau gan Scott Bongo a ffotograffiaeth gan Ceridwen Barkley. Meddai Sylvia Davies am ei gwaith: “Rydw i’n gweithio fel crefftwr gwydr ac wedi bod yn ddigon ffodus i ddysgu am y gelfyddyd hon gan rai or meistri lleol. Cefais fy mentora gan yr artist gwydr cyfoes a’r dylunydd o fri Jan Singleton o Pandy Mill ac mi ddysgais i sut i dorri gwydr, trin copr a sodro darnau at ei gilydd. Bu i Ian Hartless, sy’n rhedeg busnes gwydr lliw ac yn addysgu mewn coleg lleol yn ogystal â helpu i adfer Cadeirlan Anglicanaidd yn Lerpwl, ddangos i mi sut i wneud ffenestri plwm. “Yn 2010 mynychais gwrs ffiwsio a gwasgu gwydr wedi ei redeg gan Jenny Barker o gwmni Melt Designs yn Lerpwl sydd hefyd yn Bennaeth Dylunio Gwydr yn Athrofa Gogledd-Ddwyrain Cymru. Yn y cwrs bu i mi ddysgu technegau a phrosesau amrywiol a chyffrous gweithio gyda gwydr poeth. Mae pob darn o waith yn unigryw ac wedi ei wneud â llaw ac yn cael ei roi yn yr odyn tanio (sawl gwaith), neu fel arall n cael ei loywi neu ei sodro gyda phlwm. “Rydw i’n hoffi gwneud eitemau sydd â rhywfaint o ddefnydd ymarferol fel powlenni ffrwythau a phlatiau enw lliwgar ar gyfer drysau ystafelloedd gwely ac yn y blaen, ond rydw i hefyd yn mwynhau gwneud rhywbeth a all greu golau a symudiadau a gweld effaith anhygoel golau haul drwy wydr lliw.” Bydd yr arddangosfa iw gweld yn y cypyrddau crefft yn Llyfrgell yr Wyddgrug. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg: “Rydw i’n falch bod tîm Diwylliant a Digwyddiadau Celf Cyngor Sir y Fflint a’n gwasanaeth llyfrgelloedd yn parhau i gefnogi unigolion medrus lleol – gan arddangos eu gwaith a’u cefnogi fel busnesau. “Os hoffai unrhyw wneuthurwr, artist neu grefftwr arddangos ei waith yn y cypyrddau crefft yn Llyfrgell yr Wyddgrug, fe ddylen nhw ffonio’r dderbynfa neu e-bostio gwenno.e.jones@flintshire.gov.uk gan atodi tri llun och gwaith a datganiad byr am eich gwaith celf neu’ch crefft.