Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyflwyno Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i Mrs Edwards
Published: 08/04/2014
Mae Arglwydd Raglaw Clwyd wedi cyflwyno Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) i
wraig leol sydd wedi bod yn gwneud gwaith gwirfoddol ers dros 20 mlynedd.
Derbyniodd Mrs Joan Edwards o Gorwen, sy’n athrawes wedi ymddeol, ei medal mewn
seremoni yr wythnos ddiwethaf am wasanaethau gwirfoddol ac elusennol fel aelod
o Wasanaeth Brenhinol Gwirfoddol y Merched ac fel arweinydd Clwb y Berwyn ers
iddi ymddeol yn 1995.
Cafodd y clwb, a oedd yn sefydliad i rai droi 60 oed yn wreiddiol, ei ail-enwi
ac mae ganddo bellach aelodau o oedrannau amrywiol o 55 oed i dros 90 oed.
Mae Mrs Edwards wedi rhoi llawer iawn o’i hamser a’i hegni i mewn i redeg y
clwb ers iddi gymryd yr awenau ac mae wedi cynnal cyfarfod bob pythefnos am
baned a sgwrs i’r aelodau mewn clwb sy’n cynnig amrywiaeth mawr o
weithgareddau. Maent yn cael amryw o siaradwyr, arddangosiadau o bob math,
sgyrsiau addysgol o ganghenau o wahanol wasanaethau, sesiynau crefft, cwisiau,
dosbarthiadau ymarfer corff a dawnsio hawdd.
Mae nifer yr aelodau wedi treblu o ganlyniad i’w gwaith gyda’r clwb ac mae wedi
denu aelodau o bentrefi cyfagos cymaint nes bo’r nifer wedi gorfod cael ei
gyfyngu oherwydd maint y lleoliad, sef Canolfan Byw’n Iach Corwen, ac mae
rhestr aros o bobl sy’n dymuno ymuno.
Fel ymddiriedolwr Partneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych mae hi wedi darparu
cyngor amhrisiadwy er mwyn cynnal y Ganolfan Byw’n Iach ac wedi treulio llawer
o amser yn ymchwilio i mewn i grantiau i gadw’r ganolfan a’r clwb mewn sefyllfa
ariannol iach.
Drwy sicrhau grant gwerth £5,000 gan y Gronfa Loteri Fawr yn 2012 llwyddodd yr
aelodau i ymweld â lleoedd o ddiddordeb hanesyddol ac mae wedi llwyddo i gael
mynediad at gyllid allanol i’r clwb o amryw o ffynonellau.
Llun: Uwch Siryf Clwyd, Celia Jenkins, Mrs Joan Edwards BEM ac Arglwydd Raglaw
Clwyd Harry Fetherstonhaugh.
MEC_4411 copy.jpg