Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Digwyddiad Wythnos Gofalwyr ar Sgwâr Daniel Owen, yr Wyddgrug - 10 Mehefin

Published: 28/05/2015

Mae NEWCIS (Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru) yn cynnal digwyddiad codi ymwybyddiaeth ar Sgwâr Daniel Owen ddydd Mercher 10 Mehefin fel rhan o Wythnos Gofalwyr 2015. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 10am a 4pm ac mi fydd yna gemau, gweithgareddau a cherddoriaeth drwy gydol y dydd. Bydd tri phrif stondin: Pod hel atgofion glan y môr hyfryd lle fyddwch chi’n medru prynu hufen iâ a mwynhau ymlacio yn y tywod a gwrando ar y môr a chreu’ch cerdyn post eich hun. Pod hel atgofion tafarn hen ffasiwn i bobl brynu diodydd meddal, suddion a byrbrydau a chymdeithasu a mwynhau’r hen ganeuon poblogaidd. Bydd yna hefyd stondin wybodaeth ar y brif stryd yn yr Wyddgrug i hyrwyddo NEWCIS ai wasanaethau ac i egluro Wythnos Gofalwyr. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chefnogwr Gofalwyr Cyngor Sir y Fflint: “Mae Cyngor Sir y Fflint yn cydnabod y cyfraniad pwysig a wneir gan gannoedd o ofalwyr anffurfiol a theuluoedd ledled Sir y Fflint i alluogi pobl i barhau i fyw gartref ac i fod yn rhan ou cymunedau. Byddwn yn annog pawb i gefnogi Wythnos Gofalwyr Cymru trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog sy’n cael eu cynnal gan NEWCIS a dysgu mwy am y gwaith y mae NEWCIS yn ei wneud yma yn Sir y Fflint.” Mae gan Gyngor Sir y Fflint nifer o bodiau Hel Atgofion ar gyfer pobl â dementia; maent ar gael i’w benthyg gan Wasanaeth Llyfrgell Sir y Fflint. Os hoffech chi wybod mwy am y cynllun, cysylltwch â NEWCIS neu Gwasanaeth Llyfrgelloedd Sir y Fflint ar 01352 704400