Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn croesawu cyllid ar gyfer y priffyrdd

Published: 19/05/2015

Yn dilyn cais llwyddiannus i Lywodraeth Cymru, mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi bod £1.4 miliwn wedi ei sicrhau ar gyfer cynlluniau cludiant a fydd yn cael eu rhoi ar waith y flwyddyn ariannol hon. Bydd y gwelliannau yn cynnwys adnewyddu signalau traffig ar yr A548 Sealand Road / Cyffordd Seahill Road, gosod camera cyflymder sefydlog ar ffordd ddeuol yr A541 Pontblyddyn (am yr Wyddgrug), gwella marciau ffordd, arwyddion ac arwyneb tair cylchfan o fewn Parthau 2, 3, a 4 Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ar yr A548, a chreu llwybr troed i wasanaethu Ysgol Uwchradd Argoed ym Mynydd Isa. Maer cyllid yn rhan o gais blynyddol i Lywodraeth Cymru yn dilyn asesu a blaenoriaethu holl safleoedd damweiniau yn y sir. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd ar Dirprwy Arweinydd: Bydd y gwelliannau yn helpu i gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau anafiadau ar rwydwaith ffyrdd Sir y Fflint. Bydd y cynigion yn sicrhau gwelliannau diogelwch sydd wir eu hangen ac a fydd yn helpu’r defnyddwyr mwyaf diamddiffyn. Rydw i’n siwr y bydd y gwaith yn cael ei groesawu gan bawb syn defnyddior ffyrdd. Image Pennawd: Y Cyng. Bernie Attridge ac Anthony Stanford, Uwch Peiriannydd Trafnidiaeth Cyngor Sir y Fflint ym Mynydd Isa.