Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cartrefi Gogledd-ddwyrain Cymru - diweddariad

Published: 09/05/2014

Mae cwmni tai newydd Cyngor Sir y Fflint ar agor i fusnes a bydd aelodaun cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn ei gylch yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Mawrth (13 Mai). Cartrefi Gogledd-ddwyrain Cymru yw cwmni newydd arloesol y Cyngor sy’n darparu llety i bobl ar y rhestr fforddiadwy sy’n anghymwys i gael tai cymdeithasol ond sy’n ei chael yn anodd fforddio rhenti preifat. Bydd aelodau’r Cabinet hefyd yn clywed y diweddaraf ynghylch cynnydd Cartrefi Gogledd-ddwyrain Cymru sydd eisoes yn rheoli 10 eiddo, wedi lansio gwefan ac wedi cynnal cyfarfod cyntaf eu bwrdd. Bydd cynlluniau a fydd yn cael eu cymeradwyo’n fuan yn golygu y bydd y cwmni, cyn bo hir, yn gallu trafod yn uniongyrchol â datblygwyr tai syn cynnig unedau anrheg ir Cyngor fel rhan or targedi parhaus ar gyfer tai fforddiadwy. Bydd y cwmni hefyd yn cynnig gwasanaeth rhentu a rheoli i landlordiaid a bydd perchnogion tai dros 55 oed hefyd yn gallu prydlesu eu heiddo i’r cwmni a chael rhagor o bwyntiau ar gyfer llety ymddeol y cyngor. Meddai’r Cynghorydd Helen Brown, yr Aelod Cabinet dros Dai: “Mae Cartrefi Gogledd-ddwyrain Cymru yn cynnig gwasanaeth gwych i bontior bwlch rhwng tai cymdeithasol a thrigolion sydd angen rhenti mwy fforddiadwy a bydd y dewis o dai a fydd ar gael i’n trigolion yn llawer gwell. Mae’r cwmnin cynnig gwasanaethau i landlordiaid yn ogystal ag i drigolion hyn a bydd yn fodlon iawn ateb pob ymholiad. Meddai’r Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Rydyn ni’n cynnig gwasanaeth tai newydd, amgen a fforddiadwy i bobl yr ardal. I lawer o bobl leol, pobl ifanc yn aml, mae rhai rhenti preifat yn anfforddiadwy ac allan o gyrraedd. Rwy’n falch fod Cyngor Sir y Fflint yn arwain y ffordd fel y Cyngor cyntaf yng Nghymru i sefydlu ei gwmni tai ei hunan. Mae’r cwmni eisoes yn mynd o nerth i nerth ac rwy’n edrych ymlaen at weld y cynnydd y bydd yn ei wneud yn ystod y misoedd nesaf. I gael rhagor o wybodaeth ynghylch y gofrestr fforddiadwy a dod yn denant Cartrefi Gogledd-ddwyrain Cymru, neu os ydych yn landlord a hoffai weithio gydar cwmni, ewch ir wefan www.northeastwaleshomes.co.uk neu ffoniwich 01352 701400.