Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Clwyd Theatr Cymru yn penodi Tamara Harvey fel Cyfarwyddwr Artistig
  		Published: 12/06/2015
Heddiw (2 Mehefin 2015) bydd Clwyd Theatr Cymru yn cyhoeddi penodiad Tamara 
Harvey fel Cyfarwyddwr Artistig newydd.  Bydd yn ymuno â Chlwyd Theatr Cymru ym 
mis Awst eleni.
Ar ôl cael ei phenodi, meddai Tamara Harvey: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi 
cael fy ngwahodd i fod yn gyfarwyddwr artistig i Glwyd Theatr Cymru ar adeg mor 
gyffrous yn ei hanes.  Mae Terry Hands wedi gwneud gwaith rhagorol yn datblygu 
teulu o artistiaid a chynhyrchu gwaith ardderchog ar gyfer cynulleidfa deyrngar 
sy’n tyfu.  Nawr wrth i’r cwmni symud i’w deugeinfed flwyddyn, edrychaf ymlaen 
at ehangu’r cylch hwnnw: meithrin talent o Gymru a thu hwnt, a chydweithio â 
chwmnïau ac artistiaid o bell ac agos i sicrhau fod y begwn hwn o arloesedd ar 
ben bryn yn yr Wyddgrug yn ysbrydoliaeth i Gymru, y DU a gweddill y byd. 
Meddai Ron Davies, Cadeirydd: “Mae Bwrdd Clwyd Theatr Cymru yn arbennig o falch 
o gael cyhoeddi penodiad Tamara Harvey fel ein Cyfarwyddwr Artistig.  Tamara 
yw’r ymgeisydd delfrydol ar gyfer cyfnod nesaf ein datblygiad fel cwmni 
cynhyrchu a theatr blaenllaw yn y DU.  Mae ganddi enw da ymhlith ei chyfoedion 
a llwyth o egni, gweledigaeth a chreadigrwydd.  Mae Tamara yn rhannu ein 
gweledigaeth i ddatblygu ein safle o gryfder fel cydgomisiynydd a chwmni 
teithiol yn y DU ac yn rhyngwladol, ac arallgyfeirio ein arlwy celfyddydol i 
wneud ein sylfaen yng Nghlwyd Theatr Cymru yn ganolbwynt bywiog a phrif 
gyrchfan diwylliannol.”
Mae Tamara Harvey wedi cyfarwyddo yn y West End, ledled y DU a thramor, gan 
weithio ar ddramâu clasurol, ysgrifennu newydd, theatr cerdd a ffilm.  Yn fwy 
diweddar, cyfarwyddodd Pride and Prejudice i Theatr Crucible Sheffield ac, yn 
Theatr Hampstead, dramau blaenllaw Elephants gan Rose Heiney, Hello/ Goodbye 
gan Peter Souter ac In the Vale of Health, cylched o bedair drama gan Simon 
Gray.  Mae perfformiadau blaenllaw byd-eang eraill wedi cynnwys From Here to 
Eternity, y sioe gerdd newydd gan Tim Rice, Stuart Brayson a Bill Oakes yn 
Theatr Shaftesbury, Breeders  yn Theatr St James aThe Contingency Plan a tHe 
dYsFUnCKshOnalZ!, ar gyfer Theatr Bush).
Gwahoddwyd Harvey gan Josie Rourke i fod yn Gyfarwyddwr Cysylltiol ar gyfer ei 
blwyddyn olaf yn Theatr Bush yn 2010 -11, lle cyfarwyddodd Tamara Where’s My 
Seat?, pump o’r Sixty-Six Books a drama arobryn The Kitchen Sink, y tri 
chynhyrchiad cyntaf yng nghartref newydd Theatr Bush.  Mae wedi bod yn 
gyfarwyddwr dair gwaith ar 24 Hour Plays at the Old Vic ac mae wedi bod aelod o 
banel Gwobrau George Devine ddwywaith ar gyfer y Dramodydd Mwyaf Addawol.  
Mae’n aelod o fwrdd Gwyl Ddrama Genedlaethol y Myfyrwyr, bu’n un o’r beirniaid 
yn yr Wyl eleni, mae’n ymddiriedolwraig i Sefydliad Peggy Ramsay ac mae ar 
banel theatr cerdd ar gyfer gwobrau Artistiaid o Ddewis Sefydliad Kevin Spacey. 
Adeiladwyd Clwyd Theatr Cymru yn wreiddiol fel Canolfan Gelfyddydau 
Ranbarthol.  Cafodd ei chreu drwy weledigaeth Cyngor Sir y Fflint gynt ac fe’i 
hagorwyd yn 1976.  Mae’r theatr tua milltir o ganol tref yr Wyddgrug yng 
ngogledd-ddwyrain Cymru ac mae’n agos at ddinas Caer.  Mae’r ganolfan yn 
cynnwys pump o leoliadau perfformio – Theatr Anthony Hopkins, Theatr Emlyn 
Williams, Stiwdio 2, Ystafell Clwyd (aml-ddefnydd) a Sinema – yn ogystal â siop 
lyfrau, bwyty a thair oriel gelf.
Mae pump o Gyfarwyddwyr Artistig wedi bod yn y theatr dros y 39 mlynedd 
diwethaf: George Roman (1976-1985), Toby Robertson (1985-1992), Helena 
Kaut-Howson (1992-1995) a Terry Hands (1997-2015). Mae Tim Baker wedi bod yn 
Gyfarwyddwr Cysylltiol ers 1997 ac mae’n rheoli rhaglen y Theatr Bobl Ifanc 
hynod lwyddiannus.  Ariennir y theatr ar y cyd gan Gyngor Sir y Fflint a 
Chyngor Celfyddydau Cymru.  
Clwyd Theatr Cymru yw’r prif gwmni cynhyrchu drama yng Nghymru ac mae’n denu 
bron i draean o gyfanswm cynulleidfaoedd theatr Cymru yn flynyddol.  Yn 1998 
enillodd Clwyd Theatr Cymru wobr Theatr y Flwyddyn Barclays/TMA ac yn 1999 fe’i 
dynodwyd yn Gwmni Celfyddydau Perfformio Cenedlaethol Cymru gan Gyngor 
Celfyddydau Cymru. 
Nodyn i Olygyddion 
Gwybodaeth fywgraffiadol bellach
Ganwyd Tamara Harvey yn Botswana, dysgodd gerdded yn yr Unol Daleithiau ac fe’i 
magwyd yn Brighton.  Sylweddolodd ei bod am fod yn gyfarwyddwr pan oedd yn ddwy 
ar bymtheg oed pan gafodd ei derbyn ar raglen addysgol fel rhan o Wyl 
Gelfyddydol Ryngwladol Brighton, gan gysgodi cydgyfarwyddwyr Noye’s Fludde. 
Treuliodd flwyddyn dramor ym Motswana ac Efrog Newydd, lle bu’n gwneud swyddi 
amrywiol fel cynhyrchydd, cyfarwyddwr, gweithredwr bwrdd goleuo, intern, 
swyddog gweinyddol cysylltiol a chynorthwy-ydd castio.  Ei chynhyrchiad cyntaf 
fel cyfarwyddwr oedd ym Motswana, lle cynhyrchodd ei haddasiad ei hun o ddrama 
The Lion, the Witch and the Wardrobe ar gyfer Gwyl Gelfyddydol Ryngwladol 
Maitisong.   
Dychwelodd Harvey i’r DU i astudio ym Mhrifysgl Bryste, lle ffurfiodd ei chwmni 
theatr ei hun, Bright Angel, gan gynhyrchu a chyfarwyddo Romeo and Juliet, 
Henry V a Sixteen Winters gan Laura Wade yn yr Old Vic ym Mryste.  Yn Llundain, 
cynhyrchodd Bright Angel Something Cloudy, Something Clear gan Tennessee 
Williams’ ac Young Emma gan Wade, yn y Finborough.  
Am bum mlynedd ar ôl graddio, bu Tamara yn cyfuno’r gwaith o fod yn gyfarwyddwr 
cynorthwyol mewn opera a theatr â’i chynhyrchiadau ei hun, gan weithio i Opera 
Deithiol Lloegr, Opera Garsington, Opera New Kent, RADA, Shakespeare’s Globe, 
ac ar gynhyrchiadau theatr yn y West End ac ar daith.  Cynorthwyodd y 
cyfarwyddwr a enwebwyd ar gyfer Gwobr Tony, Tim Carroll, ar y cynhyrchiad 
gwreiddiol o’r ddrama Twelfth Night a adfywiwyd yn ddiweddar a oedd yn serenu 
Mark Rylance, a bu hefyd yn cynorthwyo Stephen Poliakoff ar Sweet Panic, a oedd 
yn serenu Victoria Hamilton a Jane Horrocks.  
Ei chynhyrchiadau cyntaf mawreddog fel cyfarwyddwr oedd Much Ado About Nothing 
gyda chast benywaidd i gyd yn Theatr Globe, taith gyntaf The Graduate yn y DU 
fel cydgyfarwyddwr â Terry Johnson ar One Flew Over the Cuckoo’s Nest yn serenu 
Christian Slater, Frances Barber a Mackenzie Crook.  
Mae ei gwaith theatr pellach yn cynnwys Plague Over England (Finborough & 
Duchess); Bash (Stiwdios Trafalgar); Whipping it Up (New Ambassadors); 
Educating Rita a Smash (yn Menier Chocolate Factory/Theatr Brenhinol Bath ac ar 
daith); Romeo and Juliet (Theatre of Memory yn Middle Temple Hall); Dancing at 
Lughnasa (Theatr Rep Birmingham); Where the Mangrove Grows (Theatre 503); Who’s 
the Daddy? (King’s Head); Bedroom Farce (West Yorkshire Playhouse); The 
Importance of Being Earnest (Theatr Shakespeare New Jersey); Touch Wood (Theatr 
Stephen Joseph); Closer (Theatr Frenhinol Northampton) a Tell Me On a Sunday 
(taith y DU).  Mae Tamara hefyd yn aelod sylfaenol o’r Lamb Players ac mae wedi 
cyfarwyddo eu drama Much Ado About Nothing; The Merchant of Venice; Love’s 
Labour’s Lost ac As You Like It.  Yn 2010, bu Tamara yn castio a chyfarwyddo 
dramâu theatr sy’n ffurfio rhan annatod o ffilm nodwedd Anonymous, gan Roland 
Emmerich (cyfarwyddwr Independence Day).  Roedd ei ‘chriw o chwaraewyr’ ar 
gyfer y ffilm yn cynnwys Mark Rylance, Jasper Britton ac Alex Hassell.   
Am wybodaeth bellach: 
Barbara Milne, Rheolwr Cyfathrebiadau Corfforaethol, Cyngor Sir y Fflint.
barbara .milne@flintshire.gov.uk, 01352 702111