Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod Hwyl Bywyd Gwyllt yr Ardd; Parc Gwepra, Dydd Sul 14 Mehefin

Published: 08/06/2015

Cynhelir diwrnod hwyl bywyd gwyllt yr ardd ym Mharc Gwepra yng Nghei Connah ddydd Sul 14 Mehefin, fel rhan o Wythnos Bioamrywiaeth Cymru 2015. Bydd 4 gweithgaredd mewn dwy sesiwn ar y diwrnod – cynhelir sesiwn y bore o 10.30 tan 12.30, a chynhelir sesiwn y prynhawn o 1.30pm tan 3.30pm. Y gweithgareddau (a fydd yn cael eu cynnal yn sesiynau’r bore a’r prynhawn) fydd gweithdy creu printiau, sesiwn blannu yng ngardd yr Hen Neuadd, gweithdy adeiladu blwch pryfed ac arolygon pridd fydd yn cael eu cynnal gan y prosiect OPAL*. Gofynnwn i chi gyfarfod yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Gwepra ar gyfer yr holl weithgareddau. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Cynhelir Wythnos Bioamrywiaeth Cymru o’r 6 i’r 14 Mehefin ar thema eleni yw garddio bywyd gwyllt. Gyda’r gweithgareddau hwyl hyn, ein nod yw codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gerddi fel cynefin ac arddangos rhai o’r pethau syml y gall teuluoedd eu gwneud yn eu gerddi hwy i annog bywyd gwyllt. “Creu printiau yw’r unig weithgaredd sydd angen archebu lle ymlaen llaw, naill ai trwy ffonio Canolfan Ymwelwyr Parc Gwepra ar 01352 703900, neu trwy anfon e-bost at countryside@flintshire.gov.uk, a dyma’r manylion cyswllt y dylid eu defnyddio os ydych yn dymuno rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r gweithgareddau.” Nodyn i Olygyddion: *Gellir cael rhagor o wybodaeth am y prosiect OPAL ar http://opalexplorenature.org