Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Defnyddio Symiau Gohiriedig

Published: 11/06/2015

Bydd dod o hyd i ffyrdd mwy hyblyg o ddarparu tai fforddiadwy yn Sir y Fflint yn cael ei drafod yn y Cabinet ddydd Mawrth 16 Mehefin. Swm gohiriedig yw arian a delir gan ddatblygwyr i’r Cyngor pan fydd maint datblygiad tai yn mynnu fod tai fforddiadwy’n cael eu darparu, ond pan nad oes modd cyflawni hynny’n briodol ar y safle. Gofynnir i Aelodau’r Cabinet gymeradwyo polisi ynglyn â sut i wario symiau gohiriedig er mwyn helpu i ddarparu tai fforddiadwy ledled y Sir. Trwy ddefnyddio cytundebau Adran 106, caiff symiau gohiriedig eu clustnodi er mwyn darparu tai fforddiadwy mewn amryw o ffyrdd. Mae’r rhain yn cynnwys prynu tir ar gyfer tai fforddiadwy; mentrau sy’n cynorthwyo prosiectau adfywio tai, gan gynnwys cynnig benthyciadau i fynd i’r afael â chartrefi gwag; a chyfraniadau ariannol tuag at ddatblygiad tai fforddiadwy a thai rhenti cymdeithasol a chynlluniau perchnogaeth cartrefi cost isel. Lle bo hynny’n bosibl, caiff yr arian a gesglir o symiau gohiriedig ei wario yn yr un ardaloedd Cyngor Cymuned ag y cawsant eu cynhyrchu. Bydd y Cyngor yn defnyddio’r arian cyn pen pum mlynedd ar ôl i’r swm gael ei dderbyn. Meddai’r Cynghorydd Helen Brown, Aelod o’r Cabinet dros Dai: “Mae tai fforddiadwy’n uchel ar restr flaenoriaethau’r Cyngor ac mae defnyddio symiau gohiriedig mewn ffordd hyblyg yn profi ein hymrwymiad i sicrhau fod ein holl breswylwyr yn cael cyfle i gael mynediad at eu cartrefi eu hunain yn lleol.”