Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Tybaco Anghyfreithlon wedi’i Atafaelu

Published: 12/05/2014

Mae ymgyrch ar y cyd rhwng Safonau Masnach Sir y Fflint a Heddlu Gogledd Cymru wedi arwain at atafaelu tybaco ac alcohol anghyfreithlon. Cafodd tua 25,000 o sigaréts ynghyd â thybaco rholio â llaw eu hatafaelu o siopau yn Yr Wyddgrug a Shotton. Mae ymchwiliadau i ffynhonnell y sigaréts yn mynd ymlaen. Cefnogwyd yr ymgyrch gan gwn synhwyro tybaco arbenigol a ddaeth o hyd i’r tybaco a oedd wedi’i guddio mewn twr cyfrifiadur a’r tu ôl i baneli ffug o dan gownter siop. Meddai’r Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Warchod y Cyhoedd: “Mae hyn yn enghraifft ragorol o weithio mewn partneriaeth rhwng asiantaethau gorfodi. Mae gwerthu tybaco anghyfreithlon rhad yn ei gwneud hi’n haws i ysmygwyr newydd fynd yn gaeth i dybaco ac yn ei gwneud hi’n galetach i ysmygwyr sydd am roi’r gorau iddi dorri’r arfer. Ymhell o fod yn drosedd heb neb yn dioddef mae i’r fasnach mewn tybaco anghyfreithlon ganlyniadau difrifol o ran trosedd ac iechyd yn y gymuned ac mae’n achosi niwed economaidd i fusnesau lleol cyfreithlon.” Gall unrhyw un sydd am roi gwybod am werthiant tybaco anghyfreithlon wneud hynny wrth Safonau Masnach ar 08454 040506. Mae sigaréts neu dybaco rholio â llaw sydd wedi’u smyglo, eu gwerthu’n anghyfreithlon neu sy’n ffug ac nad ydynt yn destun unrhyw reolaeth ar eu cyfansoddiad yn gynhyrchion tybaco anghyfreithlon. Capsiwn y llun: Sigaréts wedi’u cuddio yn y twr cyfrifiadur. Nodyn i Olygyddion Gellir cyfeirio ymholiadau’r wasg at Richard Powell neu Lise Mitchell ar 01352 703181.