Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arfarniad a chynllun rheoli ardal gadwraeth Gwaenysgor

Published: 12/06/2015

Disgwylir i’r Cabinet gymeradwyo cynllun rheoli ar gyfer ardal gadwraeth Gwaenysgor ddydd Mawrth (16 Mehefin). Ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yw ardaloedd cadwraeth ac mae gan yr awdurdod cynllunio lleol ddyletswydd statudol i’w dynodi er mwyn gwarchod eu cymeriad neu eu golwg. Mae Gwaenysgor ymhlith 32 o ardaloedd cadwraeth yn Sir y Fflint. Dyma’r ardal gyntaf i’w dynodi’n ardal gadwraeth gyda chymorth y gymuned leol, y Cyngor Cymuned a’r Aelod lleol, ond mae disgwyl i eraill ddilyn eu hesiampl maes o law. Bydd y Cynllun yn helpu i lunio ac asesu cynigion datblygu; diogelu adeiladau hanesyddol pwysig a sicrhau bod cymeriad arbennig y pentref yn cael ei warchod. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Mae Gwaenysgor yn bentref y gallwn ymfalchïo ynddo, ac mae iddo nifer o nodweddion pensaernïol a hanesyddol. Er bod newidiadau’n anorfod, mae angen i ni reoli’r newidiadau hynny i sicrhau bod cymeriad y pentref yn parhau. Os caiff y cynllun rheoli hwn ei gymeradwyo gan y Cabinet, bydd yn cynnwys ymestyn ardal gadwraeth y pentref, a bydd yn cynnig canllawiau ar gyfer dylunio adeiladau newydd a newid tirwedd yr ardal.” Mae’r cynllun rheoli i’w weld yn agenda adroddiad y Cabinet y mis hwn: www.siryfflint.gov.uk