Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Canllawiau cynllunio ar gyfer datblygiadau tai tybiannol

Published: 12/06/2015

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi paratoi canllawiau cynllunio i ddatblygwyr sy’n ystyried cyflwyno cynigion ar gyfer datblygiadau tai tybiannol. Fel nifer o gynghorau yng Nghymru a Lloegr, nid oes gan Sir y Fflint y cyflenwad tir pum mlynedd y mae Llywodraeth Cymru yn galw amdano. Un o brif ganlyniadau hyn yw’r pwysau y mae’r Cyngor yn ei wynebu, ac y bydd yn parhau i’w wynebu, o ran datblygiadau tai tybiannol nes y bydd yn mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol, neu nes y gall ddangos bod ganddo gyflenwad tir pum mlynedd. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Mae’r Nodyn Canllaw” hwn wedi’i baratoi ar gyfer datblygwyr sy’n ystyried cyflwyno ceisiadau cynllunio ar gyfer tir nad yw wedi’i gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol. Mae wedi’i gynllunio i sicrhau bod datblygwyr yn rhoi cyfiawnhad llawn dros eu cynnig, er mwyn i’r Cyngor fedru rhoi ystyriaeth briodol i’r cais, o gofio y byddai’n eithriad i’r cynllun datblygu . Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth i ddangos bod y cynnig yn gynaliadwy, yn hyfyw a bod modd ei roi ar waith. Rhaid i’r datblygiad gydymffurfio o hyd â’r Cynllun datblygu a’r polisïau cynllunio cenedlaethol. ” Mae manylon llawn y Nodyn Canllaw i Ddatblygwyr i’w gweld yn agenda’r Cabinet y mis hwn: www.siryflint.gov.uk