Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gostyngiad mewn ardrethi busnes

Published: 12/06/2015

Mae busnesau cymwys ledled Sir y Fflint yn debygol o elwa drwy gael grantiau o hyd at £1,500. Disgwylir i’r Cabinet gymeradwyo gostyngiad newydd mewn ardrethi busnes pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth (16 Mehefin) . Amcangyfrifir y bydd 400 o fusnesau’n elwa o grantiau o hyd at £1,500 a gaiff eu cynnig i fusnesau sy’n gweithredu mewn eiddo adwerthu a chanddo werth ardrethol o £50,000 neu lai. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu cynnydd o 50% yn yr hyn a oedd ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf, pan osodwyd terfyn o £1,000 ar y grant. Caiff y grantiau eu cymhwyso i’r bil net ar ôl cynnwys y gostyngiadau eraill, gan gynnwys gostyngiad ardrethi busnesu bach. Caiff ardrethi busnes eu casglu gan y Cyngor ar ran Llywodraeth Cymru . Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Gyllid: “Mae’n newyddion fod y cynllun hwn nid yn unig yn parhau am flwyddyn arall ond hefyd yn cynyddu’r arian a fydd ar gael i fusnes unigol yn ardderchog. Rydym yn falch iawn o fedru cynnig y cymorth hwn i helpu i ddiwallu anghenion siopau, bwytai, caffis a safleoedd trwyddedig lleol. Mae’r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i gynnig y grant hwn, sy’n helpu i roi hwn i’r economi leol.” Os ydych yn berchen ar fusnes lleol, cysylltwch â’r Cyngor i gael rhagor o wybodaeth ar www.siryfflint.gov.uk/businessrates