Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Strategaeth Ariannol Tymor Canolig

Published: 11/06/2015

Maer Cyngor wedi diweddaru ei Strategaeth Ariannol Tymor Canolig i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn awdurdod lleol syn perfformion dda er gwaethaf y bwlch ariannol heriol aâr cyllidebau syân cael eu lleihau pob blwyddyn. Mae Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2015 - 2018 yn rhagweld yr adnoddau tebygol a fydd ar gael ir Cyngor yn ystod y tair blynedd ariannol nesaf ac yn helpu i gynllunioâr ffordd orau iw defnyddio. Mae gostyngiadau grantiau Llywodraeth Cymru, y galw cynyddol am wasanaethau hanfodol a chost rhwymedigaethau cyfreithiol yn rhai or pwysau ariannol y maer Cyngor yn eu hwynebu. Ar hyn o bryd fe ragwelir y bydd ar y Cyngor angen canfod Â52.8 miliwn yn y tair blynedd nesaf: Â18.3 miliwn yn 2015/16, Â20.8 miliwn yn 2016/17 ac Â13.7 miliwn yn 2017/18. Bydd y Cabinet yn trafod rhan gyntaf y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ddydd Mawrth 16 Mehefin, gan ganolbwyntio ar y rhagolygon ariannol. Y pum prif ffactor a ystyrir fydd: pwysau costau cenedlaethol, pwysau costau lleol, incwm, gweithlur Cyngor, a chwyddiant. Mae ail ran y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ac maeân nodiâr atebion ar dewisiadau sydd ar gael ir Cyngor i helpu i gaur bwlch cyllido hwn. Mae Prif Swyddogion ac Aelodau Cabinet wedi adolygur dewisiadau ar gyfer y ddwy flynedd ariannol nesaf, gan dynnu ar y cynlluniau busnes syn datblygu ar gyfer pob portffolio. Maer gwaith hwn, yn ogystal à strategaethauâr Cyngor ar gyfer newid sefydliadol a diwygio gwasanaethau, yn ffurfio ail ran y Strategaeth. Byddwn yn ymgysylltuân llawn ag Aelodau ar ei ddatblygiad yn ystod yr haf. Dywedodd y Cyng. Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: âMae pob cyngor yng Nghymru yn wynebu sefyllfa ariannol nad ydym ni wedi ei gweld oâr blaen. Mae cael rhagolwg tymor canolig cywir yn y cyfnod hwn o ansicrwydd economaidd yn heriol ac maen rhaid i ni wneud rhai rhagdybiaethau, ond rydym niân teimlo bod y Strategaeth hon yn asesiad teg. Mae Sir y Fflint yn gweithion ddiflino i gwrdd Ãr bwlch cyllido mawr ac rydym niân parhau i fod yn ymrwymedig i fod yn Gyngor effeithlon a chost effeithiol, ond mae yna derfyn ar yr hyn y gall ein gwasanaethau cyhoeddus eu gwneud yn wyneb y toriadau blynyddol.â Dywedodd Colin Everett, y Prif Weithredwr y Cyngor: âMaer Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn ddogfen arwyddocaol syn rhagweld sefyllfa ariannol y Cyngor yn y tair blynedd nesaf. Yn y flwyddyn ariannol gyfredol, rydym ni wedi canfod y rhan fwyaf or arbedion drwy symleiddior Cyngor ac arbed costau. Ond, pob blwyddyn rydym niân gorfod bod yn fwy creadigol gydan cynilion - a dyna pam rydym niân dal yn apelio at gymunedau i weithio efo ni dan ein rhaglen trosglwyddo asedau cymunedol. Rydw i hefyd yn annog pawb i ddarllen y ddogfen hon - maen nodi sefyllfa ariannol y Cyngor mewn modd hygyrch iawn. Mae Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar gael fel rhan o raglen y Cabinet yn www.siryfflint.gov.uk