Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhaglen SHARP - partner datblygu wedi’i gyhoeddi

Published: 11/06/2015

Mae carreg filltir bwysig wedi’i chyrraedd yn Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) uchelgeisiol Sir y Fflint, a fydd yn gweld tai cyngor newydd a thai fforddiadwy yn cael eu hadeiladu yn y sir. Mae’r contractwr tai fforddiadwy, Wates Living Space, wedi cael ei benodi fel y partner datblygu ar gyfer y prosiect, syn ganlyniad proses gaffael fawr. Mae Wates Living Space yn un o fusnesau gwasanaethau datblygu ac adeiladu mwyaf blaenllawr DU, syn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i gyflwyno rhaglenni tai ac adfywio cymunedol newydd, y mae galw mawr amdanynt. Maer cwmni wedi gweithion flaenorol gydar Cyngor ar ei raglen gwella Safon Ansawdd Tai Cymru. Mae hyn yn golygu bod y cynigion i adeiladu 500 o gartrefi newydd - y bydd tua 200 ohonynt yn dai cyngor - yn gallu cael eu cwblhau nawr. Bydd y rhaglen yn dechrau gydag ailddatblygu tri safle - dau safle trefol ac un gwledig. Dyma safleoedd yr hen fflatiau deulawr yn y Fflint sydd wedi’u clirio i wneud lle i oddeutu 95 o dai a fflatiau, safle hen Custom House School yng Nghei Connah a gliriwyd, a safle gwledig yng Nghoed-llai. Mae’r cynigion yn seiliedig ar Safon Tai Sir y Fflint sydd wedi’i datblygu mewn ymgynghoriad â thenantiaid. Bydd y safon yn llywio cynllun a manyleb y tai newydd arfaethedig, gan gynnwys cysondeb ac ansawdd da o ran edrychiad mewnol ac allanol y tai, yn ogystal â safonau effeithlonrwydd ynni a phwysigrwydd parcio digonol. Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet Tai: “Mae penodiad Wates Living Space fel y partner datblygu yn gyffrous iawn, a fydd yn gweithio gydar Cyngor i ddarparu tai fforddiadwy newydd ac sydd wir eu hangen ar draws y Sir. Bwriedir ymgynghori ymhellach ar ddyluniad y cartrefi newydd, gan amcangyfrif y bydd ceisiadau cynllunio’n cael eu cyflwyno ddiwedd 2015.” Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Maen newyddion gwych ein bod nawr yn cymryd cam mawr arall ymlaen yn y rhaglen tai ac adfywio mwyaf cyffrous y mae’r Sir hon wedi’i gweld ers blynyddoedd lawer. Bydd y rhaglen SHARP yn cyflawni blaenoriaethau’r Cyngor hwn, nid yn unig i ddarparu cartrefi Cyngor newydd a thai fforddiadwy i bobl Sir y Fflint, ond hefyd i ddarparu gwaith lleol a chyfleoedd hyfforddi.” Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet yr Amgylchedd: “Mae hwn yn sicr yn ddiwrnod hanesyddol i Sir y Fflint. O fewn cyd-destun pwysau parhaus ar wasanaethaur Cyngor, maer rhaglen SHARP yn rhoi gobaith go iawn a chyfleoedd i bob cymuned yn Sir y Fflint.” Dywedodd Lee Sale, Cyfarwyddwr Busnes Rhanbarthol yn Wates Living Space: “Mae gan Wates Living Space berthynas hirsefydlog gyda Chyngor Sir y Fflint ac rydym yn hynod falch yr ymddiriedwyd ei Raglen Tai ac Adfywio Strategol newydd ynom. “Yn ogystal â chartrefi o ansawdd uchel syn gwella ansawdd bywyd tenantiaid Sir y Fflint, rydym yn cyfrannu ymrwymiad dwfn i’r rhaglen hon i greu budd parhaol lleol, gan gynnwys cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth leol.” Nodiadau i Olygyddion Am Wates Living Space Mae Wates Living Space, rhan o Grwp Wates, yn un o brif ddarparwyr tai fforddiadwy a chynnal a chadw yn y DU. Gan weithredu ar draws y DU, mae’n canolbwyntio ar weithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid cymdeithasau tai yn eu cymunedau lleol i adeiladu mwy o gartrefi a gwella tai presennol drwy waith cynnal a chadw ymatebol ac wedi’i gynllunio. Mae Grwp Wates, a sefydlwyd dros 118 o flynyddoedd yn ôl, yn cyflogi dros 2,000 o bobl ac fe gafodd drosiant o fwy na £1 biliwn yn 2014. Dyma’r cwmni preifat cyntaf erioed i gael ei ddyfarnu gyda Marc y Gymuned gan Fusnes yn y Gymuned ac yn 2013 cafodd ei ddyfarnu gyda’r Wobr Busnes Cenedlaethol gyntaf am Ddinasyddiaeth Gorfforaethol i gydnabod ei arweinyddiaeth a’i ragoriaeth wrth fuddsoddi yn y gymuned.