Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwyl Gwanwyn 2015

Published: 17/06/2015

Yn ddiweddar bu dros 50 o ofalwyr yn Sir y Fflint yn arddangos eu paentiadau dyfrlliw ac yn perfformio cerddi a rhyddiaith roeddynt wedi eu creu ar thema ‘Siwrneiau’. Fe grëwyd y cerddi a’r rhyddiaith yn ystod cyfres o weithdai ysgrifennu creadigol yn Llyfrgell yr Wyddgrug a gynhaliwyd yn rhan o Wyl y Gwanwyn. Cynhaliwyd y gweithdai dan arweiniad y bardd, gweithiwr cymunedol, a gwneuthurwraig ffilmiau, Suzanne Iuppa. Creodd y gofalwyr, ac aelodau or Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (GOGDdC) a gynhaliodd y prosiect, amrywiaeth o ddarnau sensitif a chraff oedd yn adlewyrchu siwrneiau o ddarganfyddiad a drawsffurfiodd eu bywydau ac a newidiodd eu safbwynt ar y byd. Meddai Suzanne Iuppa: “Dwi’n meddwl bod ein cymdeithas yn sylweddoli mwy a mwy faint mae pobl hyn wedi ei gyfrannu mewn gwybodaeth, profiad ac enghreifftiau o ddewrder, yn enwedig mewn cyfnod o newid. Ond hoffwn ddiolch i Gyngor Sir y Fflint, Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru, Cyfreithwyr Keen a Kelley, Yr Wyddgrug a Gwyl y Gwanwyn am glustnodi amser er mwyn helpu’r grwp ynysig o unigolion ddod at eu gilydd, a chofio hyn. Yng ngeiriau un gofalwr yn ei 80au ar orffen y cwrs - Rydych wedi fy neffro. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg: “Mae Gwyl y Gwanwyn yn gyfle gwych i roi cefnogaeth i ofalwyr y sir, a’u hannog i fod yn greadigol. Darparwyd cyllid a chefnogaeth ar gyfer y prosiect hwn gan Gwyl y Gwanwyn sydd yn rhan o Age Concern, Adran y Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau Cyngor Sir y Fflint, a Chyfreithwyr Keene a Kelly. Cafodd y prosiect ei ddatblygu ai reoli gan Adran y Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau Cyngor Sir y Fflint.” Lluniau Llun: 1. Y grwp o feirdd yn perfformio yn y digwyddiad Llun: 2. Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, Ray Hughes gydag ymddiriedolwr GOGDdC, Diane Weed