Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Benthyciadau Gwella Cartrefi Llywodraeth Cymru

Published: 25/06/2015

Gall benthyciadau di-log tymor byr a chanolig fod ar gael i berchnogion tai, landlordiaid, datblygwyr ac elusennau, i wneud eu cartref yn gynnes ac yn ddiogel. Mae Cyngor Sir y Fflint yn annog perchnogion eiddo i ddarganfod a ydynt yn gymwys ar gyfer Cynllun Benthyciadau Gwella Cartrefi Llywodraeth Cymru. Maer gronfa ar gael i gynghorau yng Nghymru, i alluogir Cyngor i ddarparu benthyciadau tymor byr i ganolig i berchnogion eiddo sy’n is na’r safon syn pasio meini prawf fforddiadwyedd ac sydd wediu cyfyngu o ran mathau eraill o gyllid. Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, yr Aelod Cabinet dros Dai: “Mae benthyciadau rhwng £1,000 a £25,000 ar gael ir rheini syn bodlonir meini prawf. Ond dylid nodi bod y benthyciad hwn yn ôl disgresiwn, nid oes unrhyw hawl awtomatig, ac ni ellir gwarantu cynnig hyd nes maer ymgeisydd yn derbyn hysbysiad ffurfiol o gymeradwyaeth. Gellir cael manylion y benthyciad, sut i wneud cais a gwybodaeth am y meini prawf naill ai drwy ymweld â’r adain grantiau tai ar wefan Sir y Fflint ar http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Housing/Cynllun-Benthyciadau-ar-gyfer-G wella-Tai.aspx neu drwy gysylltu â 01352 703434.