Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Bwyta’n Iach yn Ysgol Saltney Ferry

Published: 26/06/2015

Mae disgyblion ysgol gynradd Ysgol Saltney Ferry wedi bod yn gwneud ymdrech i fwytan iach. Yn ddiweddar, cynhaliodd yr ysgol gyfres o ddigwyddiadau bwytan iach, gan arwain at gystadleuaeth cinio iach, a gafodd ei beirniadu gan wasanaeth prydau ysgol Cyngor Sir y Fflint. Roedd y plant wedi cael y dasg o lunio a dylunio pecyn cinio iach. Cafodd y disgyblion buddugol (un o bob blwyddyn) fwynhau bwyta’r cinio iach yr oedd pob un wedii gynllunio’n ddiweddar, ac a ddarparwyd ar eu cyfer gan y gwasanaeth prydau ysgol, yn y neuadd fwyta yn Ysgol Saltney Ferry. Yr enillwyr oedd Ellie Colecliffe, 4 oed; Jayden Reaney, 6 oed; Angie Thomas, 7 oed; Ellie Kirby, 8 oed; Hannah Butler, 9 oed; Jazmine March, 9 oed a Ryan Evans, 11 oed. Dywedodd y dirprwy arweinydd, y Cynghorydd Bernie Attridge,:Da iawn ir holl blant yn Ysgol Saltney Ferry am wneud ymdrech i fwytan iach a llongyfarchiadau yn arbennig ir holl enillwyr. Mae eu prydau bwyd buddugol edrych yn wych ac rwy’n gobeithio eu bod wedi mwynhau bwyta eu bwydlenni buddugol!” Dywedodd pennaeth Ysgol Saltney Ferry, Charlotte Luke: Y plant eu hunain a ddywedodd i ddechrau eu bod am hyrwyddo ymwybyddiaeth bwyta’n iach ymhellach ar draws yr ysgol. Rydym wir wedi gwerthfawrogir gefnogaeth gan Laura England yn gweithio gyda phob dosbarth ac mae wedi bod yn hyfryd gweld y plant mor frwdfrydig am fwyta ffrwythau a llysiau! Caption Yn y llun mae’r plant buddugol gyda (ar y chwith) Angela Willis, Cynorthwy-ydd Arlwyo, Laura England, Cydlynydd Bwytan Iach (Cyngor Sir y Fflint), a Viv Martin, Prif Gogydd; (ar y dde) Louise Harris, Cadeirydd Llywodraethwyr yr Ysgol, a phennaeth Ysgol Saltney Ferry, Charlotte Luke.