Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint ar frig tabl CO2

Published: 26/06/2015

Mae Sir y Fflint ar frig y tabl ar gyfer ei arbedion allyriadau CO2 o wasanaethau gwastraff ac ailgylchu’r Cyngor. Yn ôl Eunomia, ymgynghoriaeth amgylcheddol syn arbenigo mewn rheoli gwastraff a materion ynni, mae ailgylchu gan gynghorau lleol ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi arbed mwy o CO2 yn 2013/14 nag erioed or blaen. Mae trydydd Adroddiad Mynegai Carbon Ailgylchu Eunomia yn dangos bod Sir y Fflint wedi arbed 21kg CO2 fesul person yn 2013/14 oi gymharu âr flwyddyn flaenorol, yn neidio o’r chweched safle yng Nghymru i’r cyntaf. Mae offeryn rhyngweithiol ar lein y cwmni (http://www.eunomia.co.uk/carbonindex yn caniatáu i arbedion CO2 y cyngor gael eu cymharu âi gilydd a rhwng blynyddoedd. Dywed Eunomia bod casglu mwy o fetelau a phlastig wedi bod yn hanfodol i’r cynnydd. Yn 2013/14, arbedwyd 1.7 miliwn tunnell o garbon o ganlyniad i ailgylchu’r deunyddiau hyn. Dywedodd y Cyng. Kevin Jones, Aelod Cabinet Rheoli Gwastraff, Gwarchod y Cyhoedd a Hamdden: “Rydym yn hynod o falch ein bod ar frig tabl Cymru ar gyfer arbedion allyriadau CO2. Ni fyddem wedi gallu gwneud hyn heb gefnogaeth ein trigolion, a hoffwn ddiolch iddynt am eu hymrwymiad i ailgylchu.