Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Croesawu offer chwarae newydd ym Magillt

Published: 02/07/2015

Mae strwythur chwarae newydd i blant bach, a throgylch, wediu gosod ym Mron y Wern, Bagillt yn ddiweddar, diolch i grant chwarae gan Lywodraeth Cymru o £15,000. Roedd grant Sicrhau Digon o Gyfleoedd Chwarae i Blant gan Lywodraeth Cymru wedi nodi’r lleoliad hwn ar gyfer gwella, a chwblhawyd y gwaith yn ddiweddar gan Gyngor Sir y Fflint. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod y Cabinet dros Strategaeth Gwastraff, Gwarchod y Cyhoedd a Hamdden sydd hefyd yn aelod y ward leol: “Rwyn falch iawn ein bod wedi gallu sicrhau’r arian hwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant Bagillt. Mae hwn yn hwb ariannol in helpu i wella cyfleusterau yn y maes chwarae hwn ar gyfer y bobl ifanc syn eu defnyddio. Mae’r offer newydd wedi cael ymateb da gan y plant, yn enwedig y rhai yn yr ysgol leol, Ysgol Merllyn. Dywedodd y Dirprwy Bennaeth, Mr John Green: “Mae’r plant yn hapus iawn gydar offer newydd, ac maent yn cael eu denu’n arbennig at y trogylch. Maen wych cael y cyfleuster hwn mor agos at yr ysgol. Mae chwarae yn bwysig i blant ac maen wych eu gweld yn gwneud y mwyaf or cyfleoedd chwarae a hamdden hyn yn eu hamser rhydd. Ychwanegodd y Cynghorydd Jones: “Maen bwysig nodi na wnaethpwyd y gwaith adnewyddu ym Mron y Wern o dan gynllun arian cyfatebol y Cyngor. Fodd bynnag, croesewir y ffaith bod y Cyngor unwaith eto yn rhedeg ei raglen arian cyfatebol i uwchraddio meysydd chwarae i blant y flwyddyn ariannol hon, gan weithio mewn partneriaeth â chynghorau tref a chymuned. Yn 2015/16, bydd cyfanswm o £105,000 ar gael ar yr un sail â blynyddoedd blaenorol, gyda phob tref a chyngor cymuned yn cael eu gwahodd i fynegi diddordeb mewn cymryd rhan yn y cynllun, a chyllid y Cyngor Sir yn cael ei gyfeirio at ardaloedd mewn angen. Bydd uchafswm o £10,000 o gyfraniad arian cyfatebol ar gael i bob cynllun. Gan ddechrau ym mis Ebrill 2016, bydd y cynllun Grant Cymunedol Ardal Chwarae yn disodlir cynllun ariannu presennol cyfatebol, gyda’i brif ffocws ar gefnogi’r ardaloedd chwarae hynny sy’n cael eu trosglwyddo i gymunedau. Llun Yn y llun mae’r Cyng Kevin Jones gyda phlant ysgol o Ysgol Merllyn: