Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Neuadd gymuned yn agor ar ei newydd wedd

Published: 29/06/2015

Mae Neuadd Gymuned Cilfan yn y Fflint wedi agor yn swyddogol wedi iddi gael ei hailwampio. Mae cryn dipyn o waith wedi’i wneud i wella ac addasu’r neuadd, a fydd yn awr yn hygyrch i bawb. Mae’r rhain yn cynnwys cegin newydd a thapiau lifer yn y sinc; mae’r waliau wedi’u paentio mewn lliwiau cyferbyniol, ynghyd â’r canlynol: goleuadau i helpu’r rhai â nam ar eu golwg; rheiliau llaw mewn lliw cyferbyniol ar hyd ramp y brif fynedfa; drws tân newydd a ramp a rheiliau mewn lliw cyferbyniol; toiled hygyrch; bleindiau ar yr holl ffenestri i leihau disgleirdeb a lloriau gwrth-lithr drwy’r neuadd. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, a ail-agorodd y Neuadd yn swyddogol: “Rwy’n falch iawn fod y Cyngor wedi medru buddsoddi yn y neuadd gymuned boblogaidd hon. Mae’n bwysig bod pawb yn gallu defnyddio a mwynhau Neuadd Gymuned Cilfan, ac mae’r addasiadau a’r gwaith ailwampio a wnaed yn golygu y bydd hynny’n digwydd yn awr.” Roedd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ray Hughes, ac aelodau’r ward leol, y Cynghorydd Alex Aldridge a’r Cynghorydd David Cox yn bresennol hefyd. Dywedodd y Cynghorydd Alex Aldridge: “Mae’n braf bod yma i weld y Ganolfan Gymuned yn ailagor yn ffurfiol ar ei newydd wedd. Rwyf fi, a’m cyd-gynghorydd David Cox, wedi bod yn pwyso ar y Cyngor ers tro i fuddsoddi yn y Neuadd hon sy’n cael ei defnyddio’n aml. Gobeithio y caiff ei defnyddio llawn cymaint yn y dyfodol.”