Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arwerthiant Gelf ac Addewidion ar gyfer yr Urdd

Published: 01/07/2015

Bydd Arwerthiant Gelf a Chrefft o waith artistiaid, crefftwyr a gwneuthurwyr o ranbarth Eisteddfod yr Urdd 2016, a’r cyffiniau, yn cael ei chynnal nos Wener 10 Gorffennaf am 7pm yn Neuadd Ddinesig Cei Connah. Yn 2016 cynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Sir y Fflint. Mae hwn yn reswm i ddathlu a theimlo balchder ymysg trigolion yr ardal. Gyda’i hanes rhyfeddol, ei adeiladau unigryw, ei olygfeydd, ei oleuni a’i liwiau a’i siapiau, mae Sir y Fflint yn leoliad enwog am ei artistiaid, crefftwyr, dylunwyr a gwneuthurwyr. Sefydlwyd y Pwyllgor Celf, Dylunio a Thechnoleg ychydig fisoedd yn ôl i gynllunio a gwneud y trefniadau sy’n ofynnol ar gyfer cynnal arddangosfa o waith creadigol plant yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru yn Sir y Fflint yn 2016. Un o ddyletswyddau’r Pwyllgor fydd codi arian i lwyfannu’r arddangosfa ynghyd â gwneud cyfraniad ariannol at gostau cyffredinol yr Eisteddfod. Yn yr arwerthiant bydd cyfle i gynnig prynu 58 o eitemau sydd wedi’u rhoi gan artistiaid, crefftwyr a’r gymuned leol. Bydd yr eitemau ar gael i’w gweld o 6pm ar noson yr arwerthiant. Mae tocynnau ar gyfer y noson yn costio £5 gan gynnwys lluniaeth ysgafn ac adloniant yn ogystal â chyfle i brynu gwaith celf gwreiddiol wrth godi arian at yr achos ardderchog hwn. Gellir gweld catalog o roddion ar wefan yr Urdd a bydd cyfle i roi cynnig ar yr eitemau ar-lein. Mae’r rhoddion yn cynnwys print Giclee hardd o Foel Famau gan artist o’r Wyddgrug, Angie Hoopert; crys pêl-droed Cymru wedi’i lofnodi; ffotograffau gan y ffotograffydd enwog Llinos Lanini; print wedi’i fframio o Eryri gan John Morris; peintiad o Noel Gallagher gan yr artist lleol Clayton Langford; cyfres o brintiau colograffi o dirnodau o Sir y Fflint gan Emma Jayne Holmes a gwaith celf gwreiddiol hardd wedi’i fframio o Abaty Basingwerk gan yr artist byd-enwog Jan Gardner, a llawer mwy o eitemau hefyd. Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, Aelod o’r Cabinet dros Addysg yng Nghyngor Sir y Fflint: “Eisteddfod yr Urdd yw un o wyliau teithiol ieuenctid mwyaf Ewrop, sy’n denu oddeutu 90,000 o ymwelwyr bob blwyddyn ac ym mis Mai 2016 bydd yn cael ei gynnal yn y Fflint, yn ystod wythnos y Sulgwyn. “Mae’n wyl gystadleuol gyda dros 15,000 o blant a phobl ifanc o dan 25 oed yn cystadlu yn ystod wythnos yr Eisteddfod mewn amryw o gystadlaethau, megis canu, dawnsio a pherfformio. Nhw yw’r ychydig elitaidd o ryw 40,000 o gystadleuwyr ledled Cymru sydd wedi ennill eu lle yn dilyn rowndiau lleol a rhanbarthol a gynhelir yn ystod misoedd y gwanwyn yn arwain i fyny at yr Eisteddfod Genedlaethol. “Wythnos Eisteddfod yr Urdd yw pinacl rhyw dair blynedd o waith caled gan wirfoddolwyr lleol ac mae’n fraint fawr cael croesawu’r digwyddiad cenedlaethol hwn i Sir y Fflint.” I weld ac i roi cynnig ar yr eitemau, ewch i wefan https://urdd4.org/arwerthiant/catalog.a5w neu am fwy o wybodaeth neu i brynu tocynnau o flaen llaw, cysylltwch â Gwenno Eleri Jones, Rheolwr Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau Cyngor Sir y Fflint ar 01352 702471 neu Rhian Hughes yn Swyddfa’r Urdd ar 01352 754956. Nodyn i Olygyddion Cysylltwch â gwenno.e.jones@flintshire.gov.uk 01352 702471 am fwy o wybodaeth. Lluniau Dyma luniau o rai o’r eitemau a fydd ar werth yn yr arwerthiant ar 10 Gorffennaf.