Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwobrau Busnes Sir y Fflint 2015 - maer chwilio wedi dechrau ar gyfer busnesau gorau Sir y Fflint

Published: 01/07/2015

Maer chwilio wedi dechrau ar gyfer busnesau mwyaf llwyddiannus Sir y Fflint gyda lansiad Gwobrau Busnes Sir y Fflint 2015 ar y cyd ag AGS Security Systems. Mae busnesau ar draws Sir y Fflint â’r cyfle i ddisgleirio yng Ngwobrau Busnes Sir y Fflint eleni. O lwyddiant ariannol i ymrwymiad y cwmni iw tîm, mae Gwobrau Busnes Sir y Fflint yn gwobrwyo a chydnabod rhagoriaeth busnes ar draws y Sir. Mae pob sefydliad a leolir yn Sir y Fflint yn gymwys i wneud cais, ar yr amod eu bod yn bodlonir meini prawf ar gyfer pob categori. Dywedodd Jonathan Turner, rheolwr gyfarwyddwr AGS Security Systems, prif noddwyr Gwobrau Busnes Sir y Fflint: “Rydym wedi bod yn gysylltiedig ers chwe blynedd, ac yn brif noddwr ers pedair blynedd bellach. Rwyf wrth fy modd â’r ymgysylltu, teimlad cymunedol ac ysbryd busnesau Sir y Fflint. I ni, mae wedi bod yn werthfawr iawn i fod yn noddwr o ran ymgysylltu â busnesau eraill a hefyd proffil ein cwmni. Hir oes i Wythnos Fusnes Sir y Fflint, Gwobrau Busnes Sir y Fflint, a’n cysylltiad gyda hwy.” Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd: “Mae Gwobrau Busnes Sir y Fflint yn arbennig ar gyfer busnesau yn Sir y Fflint, mawr neu fach, ac yn rhoi cyfle gwych i ddathlu llwyddiannau cymuned fusnes y Sir. Bydd seremoni wobrwyo gala fawreddog eleni yn cael ei chynnal ddydd Gwener 23 Hydref yn Neuadd Sychdyn, Llaneurgain, a bydd yn rhoi cyfle i fusnesau llwyddiannus Sir y Fflint ddisgleirio. Gall ennill Gwobr Busnes Sir y Fflint hybu proffil cwmni, cadarnhau enw da, ac mae’n wych ar gyfer morâl y staff. Byddwn yn annog busnesau i gyflwyno eu henwebiadau.” Rydym yn falch o gyhoeddi noddwyr newydd a chategorïau gwobrau ar gyfer 2015. Y categorïau ar gyfer 2015 yw: Gwobr Prentisiaeth a noddir gan Goleg Cambria Person Busnes y flwyddyn a noddir gan AGS Security Systems Busnes Gorau gyda dros 50 o Weithwyr a noddir gan Pochin Busnes Gorau gyda llai na 50 o weithwyr a noddir gan Ffederasiwn y Busnesau Bach Busnes Gorau gyda llai na 10 o Weithwyr a noddir gan Edge (newydd) Busnes gorau i weithio iddo a noddir gan B2 Business Systems (newydd) Cyflawniad Allforio y flwyddyn a noddir gan Wagtail UK (newydd) Llwyddiant trwy Arloesi a noddir gan Brifysgol Glyndwr Llwyddiant drwy Gynaliadwyedd a noddir gan Borthladd Mostyn Cwmni Newydd Mwyaf Mentrus a noddir gan DSG Chartered Accountants Mae manylion llawn y categorïau ar meini prawf ar gyfer cystadlu iw gweld ar wefan y Gwobrau www.flintshirebusinessweek.co.uk neu drwy gysylltu â Kate Catherall 01352 703221, kate.catherall@flintshire.gov.uk Rhaid i ffurflenni cais wediu llenwi a deunydd ategol ddod i law erbyn y dyddiad cau 7 Medi 2015 a gellir eu cyflwyno ar-lein. Llun Pennawd: Ch i’r Dd: Kim Dimmick, Prifysgol Glyndwr; Jonathan Turner, AGS Security Systems; Paul Islip, Westbridge Furniture; Y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Barry Jones; Nikki Edge, Edge Transport; Collin Singer, Wagtail UK Ltd; Jim O Toole, Porthladd Busnes; Tom Smith, B2 Business Systems; Katie Griffiths, Coleg Cambria