Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cadeirydd yn cwrdd â merch ifanc syn codi arian

Published: 01/07/2015

Yn ddiweddar bu i Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ray Hughes, gyfarfod â merch 14 oed, Georgia Kaye Edwards, sydd wedi cael ei henwi yn ‘Miss Junior Teen’ Sir y Fflint. Mae Georgia, o Benyffordd, yn ddisgybl Blwyddyn 10 yn Ysgol Uwchradd Castell Alun yn yr Hôb. Mae wedi cael ei dewis o gannoedd o gystadleuwyr cyn-derfynol i gystadlu yn rownd derfynol ‘Miss Junior Teen’ Prydain Fawr a gynhelir yn Blackpool ym mis Hydref. Mae Georgia’n gweithio’n galed i hyrwyddo elusen enwebedig y digwyddiad sef Together for Short Lives, cymaint ag sy’n bosibl. Mae hon yn elusen flaenllaw yn y DU sy’n codi arian i blant ag anhwylderau sy’n bygwth ac yn cyfyngu ar fywyd a phawb sy’n eu cynorthwyo, eu caru ac yn gofalu amdanynt. Maent yn cynorthwyo teuluoedd, gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau, gan gynnwys hosbisau plant. Meddai’r Cynghorydd Hughes: “Mae Georgia’n eithriadol o ofalgar ac mae’n gweithio’n galed. Roedd yn bleser ei chroesawu i Neuadd y Sir. Mae eisoes wedi codi arian i Together for Short Lives, ac mae ar hyn o bryd yn casglu rhoddion o hen ddillad, dillad gwelyau a thyweli i fynd i Fanc Dillad a’u cyfnewid am roddion i’r elusen. Helpwch os gallwch – gallwch roi rhoddion yn syth i dudalen Justgiving Georgia sef www.justgiving.com/Georgia-Kaye-Edwards.” Meddai Georgia: “’Dw i ddim yn meddwl fod pobl yn sylweddoli fod mwy iddi na harddwch corfforol yn unig mewn cystadlaethau pasiant yn y wlad hon. Mae gofyn i ferched godi arian at elusen, cymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol, a dangos eu ochr ofalgar. Mae’n beth da i bobl ifanc gymryd rhan ynddo, gan ei fod yn meithrin eich hyder, eich dysgu am yr hyn sy’n digwydd o’ch cwmpas, ac yn gwneud i chi sylweddoli pa mor ffodus ydych chi. Bydd cymryd rhan yng nghystadleuaeth ‘Miss Junior Teen’ Prydain Fawr yn brofiad bywyd gwerthfawr iawn i mi.” Llun Yn y llun mae’r Cynghorydd Ray Hughes, Georgia Kaye Edwards, Mrs Gwenda Hughes a’r Cynghorydd Cindy Hinds.