Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Celf yn y Llyfrgell

Published: 03/07/2015

Bydd arddangosfa ysbrydoledig o baentiadau gan artist Gogledd Cymru Emma Jayne Holmes yn yr oriel i fynyr grisiau yn Llyfrgell Bwcle drwy gydol mis Gorffennaf. Hwn ywr pedwerydd mewn cyfres o arddangosfeydd, Celf yn y Llyfrgell – Lliw yn y Llyfrgell, syn anelu at gefnogi artistiaid lleol, sydd efallai erioed wedi arddangos eu gwaith o’r blaen, gan roi llwyfan iddynt arddangos eu gwaith ir cyhoedd. Drwy gydol y flwyddyn, bydd y rhaglen arddangosfeydd yn Llyfrgelloedd Sir y Fflint yn cynnwys paentiadau gan Angie Hoopert, Emma-Jayne Holmes a Clayton Langford, lluniau gan Scott Bongo a ffotograffiaeth gan Ceridwen Barkley. Mae Emma bob amser yn hapus gyda brws paent yn ei llaw ac mae wedi bod yn paentio am dros ddau ddegawd. Meddai: “Rwyf bob amser wedi bod yn greadigol, gwneud a chymysgu pethau, ond rwy’n gweld tynnu llun yn her wirioneddol a pheintio’n bleser. Rwyf angen ymarfer tynnu llun (sgerbwd y gwaith celf) i fwynhau’r peintio.” “Tra yn y Brifysgol roeddwn yn treulio llawer o amser yn tynnu llun ac yn mynd allan i’r trefi a chefn gwlad i fraslunio. Ar ôl graddio y cefais wir afael ar baentio olew, yn treulio amser gydag artist arall yn eu stiwdio, dysgu’r sgiliau a disgyblaeth. Ers cael teulu yn 2005, mae paentio lluniau wedi cymryd y sedd gefn, ond bu brws yn fy llaw bron bob dydd gyda thy i’w adnewyddu! “Tua dwy flynedd yn ôl dychwelais at y paent olew a throir ystafell fwyta yn stiwdio, rwy’n rhoi ychydig oriau’r wythnos iddo, mae’r amser yn mynd heibio a fy sgiliau’n dychwelyd. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg: ““Rydw i’n falch bod tîm Diwylliant a Digwyddiadau Celf Cyngor Sir y Fflint a’n gwasanaeth llyfrgelloedd yn parhau i gefnogi unigolion medrus lleol – gan arddangos eu gwaith a’u cefnogi fel busnesau.” Bydd Emma Jayne Holmes hefyd yn cymryd rhan mewn digwyddiad agored Helfa Gelf eleni gyda chyfle i alw heibio ac ymweld â hi yn ei stiwdio. Gellir cael rhagor o wybodaeth am Helfa Gelf yn www.helfagelf.co.uk Os hoffai unrhyw wneuthurwyr, artistiaid a chrefftwyr arddangos eu gwaith fel rhan o fenter Celf yn y Llyfrgell – Lliw yn y Llyfrgell yna e-bostiwch gwenno.e.jones@flintshire.gov.uk gyda thair delwedd o’ch gwaith a datganiad byr am eich arferion celf neu grefft.