Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Ymgynghori ynghylch Ysgolion Saltney
  		Published: 16/05/2014
Mae ymgynghoriad wedi dechrau ynghylch y cynnig i uno Ysgol Gynradd Saltney 
Ferry ac Ysgol Uwchradd Dewi Sant yn Saltney.
Y dewis cyntaf a gynigir yw newid ystod oedran disgyblion Ysgol Uwchradd Dewi 
Sant o 11-18 i 11-16 o fis Medi 2016 ymlaen. 
Mae hyn yn debyg i’r trefniadau a gynigiwyd ar gyfer ysgolion uwchradd 
Treffynnon, Cei Connah a Queensferry o fis Medi 2016 ymlaen ac ar gyfer Ysgol 
Uwchradd Elfed, Bwcle o fis Medi 2014 ymlaen. Bydd cyrsiau ar gyfer myfyrwyr ôl 
16 ar gael yn y Ganolfan Chweched Dosbarth newydd yng Nghei Connah ym mis Medi 
2016.   
Yr ail ddewis yw uno Ysgol Gynradd Saltney Ferry ac Ysgol Uwchradd Dewi Sant yn 
Saltney erbyn mis Medi 2015 a newid ystod oed disgyblion yr Ysgol Uwchradd i 
3-16 ym mis Medi 2016. 
Gallwch ddweud eich barn mewn gwahanol ffyrdd:
·              gofyn cwestiynau a dweud eich barn yn y cyfarfodydd hyn 
·              llenwi holiadur ar-lein yn 
www.siryfflint.gov.uk/adolygiadysgolion
·              llenwi holiadur papur a’i ddychwelyd at Dîm Cymedroli Ysgolion, 
Dysgu Gydol Oes, yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 6ND; neu
·              anfon eich ymatebion/cwestiynau’n ysgrifenedig at Dîm Cymedroli 
Ysgolion, Dysgu Gydol Oes, yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 6ND;
Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau’n swyddogol ddydd Llun 19 Mai a bydd y manylion 
i’w gweld ar-lein yn www.siryfflint.gov.uk/adolygiadysgolion.  Dawr 
ymgynghoriad i ben ar 4 Gorffennaf 2014.
Nodyn i olygyddion
Cynhelir cyfarfodydd ymgynghori ynghylch Ysgol Uwchradd Dewi Sant ddydd Llun 19 
Mai am 4pm i staff ac am 6pm i rieni a gofalwyr.
Cynhelir y cyfarfodydd ar gyfer Ysgol Gynradd Saltney Ferry ddydd Iau 22 Mai am 
4pm i staff ac am 6pm i rieni a gofalwyr.