Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwobrau Balchder Sir y Fflint

Published: 09/07/2015

Bu dros 100 o blant sy’n derbyn gofal a phobl ifanc sy’n gadael gofal mewn seremoni wobrwyo a drefnwyd gan Gyngor Sir y Fflint yn ddiweddar. Mae seremoni wobrwyo Balchder Sir y Fflint yn dathlu llwyddiant plant sy’n cael gofal maeth a phobl ifanc sydd wedi gadael gofal yn ddiweddar ond sy’n dal yn cael cymorth gan y timau gwaith cymdeithasol. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol: Er gwaethaf popeth sy’n mynd ymlaen yn eu bywydau ifanc, fel anawsterau personol, problemau iechyd, a chael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd, mae’r plant hyn wedi llwyddo ym maes chwaraeon, dawns ac addysg ac wedi llwyddo yn eu bywydau personol. Maent wedi ennill bathodynnau nofio, wedi cael gwaith, wedi codi arian at achosion da, ac mae un wedi ennill gwobr myfyriwr y flwyddyn yn y Gyfraith hyd yn oed. Rydym yn hynod falch o’r hyn y mae’r plant hyn, o fabanod i bobl ifanc yn eu harddegau, wedi’i gyflawni a’r cymorth y maent wedi’i gael gan eu gofalwyr maeth, eu gweithwyr cymorth a’u teuluoedd. Roedd yn ddiwrnod arbennig, roedd yr haul yn tywynnu a chafodd pawb ddiwrnod llawn hwyl. Yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, a’r Cynghorydd Ray Hughes, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, agorodd y seremoni. Y Cynghorydd Jones gyflwynodd y gwobrau ac roedd Neil Ayling, Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol a Mark Tami AC yn bresennol hefyd.  Ar Twitter, dywedodd Sally Holland: “Roedd Balchder Sir y Fflint yn ddigwyddiad cynnes, llawn hwyl, a oedd yn dathlu llwyddiant plant sy’n derbyn gofal - llongyfarchiadau i bawb” Cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghlwb Cymdeithasol Corus ac roedd yn gyfle i  blant, teulouedd maeth a theuluoedd biolegol ddod ynghyd i ddathlu llwyddiant y plant ac i roi cyfle iddynt fwynhau diwrnod bythgofiadwy. Roedd castell neidio, reidiau, hufen iâ, perfformiadau canu gan  Princesses a’r plant eu hunain, stondin paentio wynebau, disgo a’r seremoni wobrwyo ei hun.  Cyfrannodd busnesau lleol at lwyddiant y diwrnod drwy ddarparu gwobrau ac anrhegion. Hoffai Cyngor Sir y Fflint ddiolch i Knauf Installations, Dave Cottle Engineering, McLintocks, Molyneux, MPH Construction, Village Urban Resorts, Beaufort Park Hotel, Mainetti, System Electrical, Airbus, Airbus FC, Westbridge Furniture, Whittington Riddell, Coleg Cambria, J Bradburn Price, Linenhall Chambers, y Pwyllgor Safonau, Abakhan, Nandos, Dee Gas, LS Fire Group, The Cross Keys, cynghorwyr lleol a’r unigolion a gyfrannodd. Pennawd o’r chwith i’r dde: Y Cynghorydd Christine Jones, Neil Ayling  Sarah Williams (16), Dawn Price (21) Bryony Smythe (18) a’r Athro Sally Holland.