Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llyfr i nodi Llwybr Cerfluniau newydd

Published: 14/07/2015

Mae llyfr coffaol wedi cael ei gynhyrchu i nodi llwybr cerfluniau newydd ar y llwybr beicio rhwng River Lane, Saltney, a phont droed Saltney Ferry. Mae pedwar cerflun a osodwyd yn ddiweddar yn rhan o brosiect aml-asiantaeth ar themâu treftadaeth, celf, mynediad a bywyd gwyllt ar y llwybr beicio. Mae’r cerfluniau unigryw 7 troedfedd gan yr artist nodedig Mike Johnson wedi cael eu creu i adlewyrchu golau’r arfordir a bywyd planhigion lleol, a ganfuwyd gan blant ysgolion lleol ar ymweliad â’r safle y llynedd. Mae’r llyfr newydd yn cynnwys trosolwg o’r prosiect a rhywfaint o waith celf a gynhyrchwyd gan y disgyblion. Mae hefyd yn cynnwys ffotograffau o’r plant yn casglu planhigion i fynd yn ôl gyda nhw i’r ystafell ddosbarth i’w hastudio ar gyfer y gwaith celf. Mae’r cynllun adfywio sylweddol ar lan yr afon wedi cael ei wneud mewn partneriaeth â Chyngor Tref Saltney, Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chadwyn Clwyd, sef Asiantaeth Datblygu Gwledig i Sir y Fflint a Sir Didnbych. Mae’r tir yn perthyn i’r Cyngor Sir a Chyfoeth Naturiol Cymru. Sichraodd Cadwyn Clwyd fwyafrif y cyllid ar gyfer y prosiect gan Gynllun Datblygu Gwledig Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop dros Ddatblygiad Gwledig a Llywodraeth Cymru. Meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod o’r Cabinet dros yr Amgylchedd: “Rwy’n eithriadol o falch o’r hyn sydd wedi cael ei gyflawni drwy’r dull gweithio aml-bartneriaeth hwn. Mae’n enghraifft wych o waith adfywio arfordirol yn Sir y Fflint ac mae’n cynrychioli buddsoddiad ardderchog yn ein cymuned. Gobeithiaf y bydd y llyfr newydd hwn o ddiddordeb yn lleol a thu hwnt. Nodyn i’r Golygyddion Bydd cyfle i dynnu llun ger siop Go Outdoors, River Lane, Saltney am 2pm ar 14 Gorffennaf gyda disgyblion o un o’r ysgolion a gymerodd ran, Ysgol Gynradd Saltney Ferry.