Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Viagra Ffug yn cael ei ganfod yn Sir y Fflint

Published: 14/07/2015

Yn ystod ymweliad â masnachwr, daeth Swyddogion Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint o hyd i Viagra ffug yn cael ei werthu. Mae ymholiadau o achosion eraill o atafael y cynnyrch wedi datgelu ei fod yn beryglus ac yn cynnwys: * inc argraffydd glas * amffetaminau, sy’n cael ei alw hefyd yn “speed” * Metronidazole, gwrthfiotig pwerus sy’n gallu achosi adwaith alergaidd, dolur rhydd neu gyfogi * gormod o gynhwysion actif (neu ddim digon), a allai beri niwed * cynhwysion glynol, megis plastrfwrdd, sy’n atal y dabled rhag torri i lawr yn eich system Yn ôl canllawiau meddygol, dim ond ar bresgripsiwn y dylid cymryd Viagra a gyda chymeradwyaeth Meddyg. Bydd ymholiadau yn Sir y Fflint yn parhau mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi a diogelwch y cynnyrch hwn. Meddai’r Cynghorydd Kevin Jones, Aelod o’r Cabinet dros Ddiogelu’r Cyhoedd, “Mae’n bryder fod cyffuriau ffug o unrhyw fath yn ymddangos ar y farchnad yn Sir y Fflint. Rydym yn cynghori defnyddwyr i gymryd meddyginiaeth a roddir iddynt gan eu meddyg neu fferyllydd yn unig a dylid cymryd y rhain dan ganllawiau caeth. Os oes unrhyw un yn amau fod eitemau fel hyn yn cael eu gwerthu, dylent gysylltu â’r Gwasanaeth Safonau Masnach ar 03454 040506”