Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Etholiad Senedd Ewrop - sut i bleidleisio
Published: 15/05/2014
Pan fydd pleidleiswyr yn mynd i bleidleisio ddydd Iau nesaf (22 Mai), bydd
gofyn iddynt fwrw pleidlais i ethol pedwar Aelod o Senedd Ewrop i gynrychioli
Cymru gyfan.
Bydd gan bleidleiswyr un bleidlais i’w bwrw yn unig a bydd 11 o bleidiau
cofrestredig wediu rhestru ar y papur pleidleisio.
Bydd yr ymgeiswyr yn cael eu hethol drwy gynrychiolaeth gyfrannol felly ni fydd
pleidleiswyr yn pleidleisio dros ymgeiswyr unigol.
Atgoffir pleidleiswyr i fynd âu cerdyn pleidleisio gyda nhw iw gorsaf
bleidleisio ddynodedig (sydd wedi ei hargraffu ar y cerdyn) ai roi ir Swyddog
Llywyddu neu un or Clercod Pleidleisio ar ddyletswydd.
Hyd yn oed os bydd pleidleisiwr wedi colli’r cerdyn pleidleisio, bydd ef neu hi
yn dal i fod â hawl i bleidleisio ar yr amod eu bod wedi eu cofrestru.
Dylai’r marc pleidleisio fod ar ffurf croes yn y blwch wrth ymyl y blaid y
maent yn dymuno pleidleisio drosti. Yna, dylai pleidleiswyr roi’r papur wedi’i
farcio yn y Blwch Pleidleisio.
Bydd y gorsafoedd pleidleisio ar agor o 7 am tan 10 pm. Bydd 97 ohonynt ar agor
yn Sir y Fflint.
Bydd pob un or 22 o ardaloedd awdurdod lleol yng Nghymru yn cynnal eu cyfrif
eu hunain ddydd Sul, 25 Mai. Mae hyn oherwydd bod pleidleisio mewn rhannau o
dir mawr Ewrop yn digwydd ar y diwrnod hwnnw.
Pan fyddant wedi cwblhau eu cyfrif, bydd Swyddogion Canlyniadau Lleol yn
hysbysur Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol ar gyfer Cymru, Mr Bryn Parry-Jones,
o ganlyniad y cyfrif yn eu hardal.
Yna bydd y canlyniad ar gyfer rhanbarth etholiadol Cymru yn cael ei gyhoeddin
gan Mr Parry-Jones nos Sul yng Nghanolfan Hamdden Abergwaun.
Ni ellir cyhoeddi canlyniadau lleol cyn 10 pm gan mai dyma pryd y bydd y
gorsafoedd pleidleisio yn cau mewn rhai rhannau o Ewrop.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i’r wefan: www.aboutmyvote.co.uk a hefyd
www.siryfflint.gov.uk neu gallwch ymuno âr ddadl ar Trydar gan ddefnyddio’r
hash nod #EPE14.