Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Archwilio diogelwch cofebion

Published: 17/07/2015

Mae Cyngor Sir y Fflint yn bwrw ymlaen â’r gwaith o archwilio diogelwch cofebion, a’r cam nesaf fydd archwilio’r mynwentydd a ganlyn, a hynny yn ystod mis Gorffennaf. · Penarlâg Rhifau 1 a 2 · Treuddyn · Maes Glas Rhif 2 · Ffordd Llaneurgain, y Fflint Caiff pob cofeb yn y mynwentydd hyn eu harchwilio drwy ddilyn yr un drefn. Staff profiadol fydd yn cynnal yr archwiliadau a byddant wedi cwblhau hyfforddiant archwilio diogelwch ac yn gymwys i ymgymryd â’r gwaith sensitif hwn. Os gwelir nad yw cofeb yn ddiogel ond nad yw’n peryglu neb ar hyn o bryd, bydd y Cyngor yn ceisio cysylltu â pherchennog cofrestredig y bedd cyn trefnu i gynnal y garreg dros dro o’r cefn. Caiff hysbysiad ei osod ar y garreg hefyd yn dweud wrth y teulu nad yw’r Awdurdod wedi medru cysylltu â nhw, yn esbonio beth sydd wedi digwydd ac yn nodi enw cyswllt. Os gwelir bod cofeb yn rhy beryglus i’w gadael heb ei chynnal dros dro, caiff ei gosod ar ei gwastad ar flociau pren, caiff hysbysiad ei osod arni a, bydd yr Awdurdod yn ceisio cysylltu â’r teulu. Mae’n bwysig bod y Cyngor yn cwblhau’r gwaith hwn er mwyn diogelu pawb sy’n ymweld â mynwentydd neu’n gweithio ynddynt. Hoffem sicrhau teuluoedd fod y Cyngor yn ymwybodol iawn o’u teimladau ac y caiff y gwaith ei gwblhau mewn modd parchus iawn. Os hoffech ragor o wybodaeth am raglen diogelu cerrig beddi, ffoniwch y Gwasanaethau Profedigaeth ar 01352 703360 neu 703361 neu 703362.